Prosiect Brigau Bach gyda Iogis Bach

13:00-14:15

Brigau Bach

Gweithgareddau byr i ddysgu am eich perthynas â natur ac i roi cyfle i chi gyfrannu eich syniadau i lywio y prosiect yn y dyfodol

Sesiwn Blasu Iogis Bach
Mae'r sesiwn unigryw hyn sydd yn cael ei harwain gan Leri yn rhoi cyflwyniad i thechnegau ioga a thylino babi ar gyfer cefnogi camau datblygiad eich babi. Hefyd gyda phwyslais ar llesiant ar gyfer rhieni/gwarchodwyr.

 

PROSIECT BRIGAU BACH 

Mae Brigau Bach yn brosiect newydd fydd yn gweithredu ar draws 5 ardal o Wynedd i ddeall a meithrin perthynas plant dan 5 oed a’u teuluoedd/gofalwyr gyda natur a thrwy hynny atgyfnerthu llestiant ac ymdeimlad o berthyn i dir a Chymreictod ein hardaloedd. Partneriaid craidd y prosiect yw Y Dref Werdd, Partneriaeth Ogwen, Yr Orsaf, Partneriaeth Dyffryn Peris, Oriel Plas Glyn y Weddw a Datblygiadau Egni Gwledig. Byddwn hefyd yn cydweithio gyda’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar, CARN, cylchoedd meithrin / Ti a Fi lleol a mudiadau partner eraill.  

Rhwng rwan a mis Gorffennaf, bydd pob partner yn siarad efo’u cymunedau ac yn benodol plant dan 5 oed a’u gofalwyr/teuluoedd i ddeall eu perthynas ȃ natur. Bydd hyn yn cynnwys cynnal cyfres o ddigwyddiadau Brigau Bach, ymweliadau ȃ grwpiau plant dan 5 a sgyrsiau uniongychol. I gefnogi’r ymgynghori, rydym wedi llunio pecyn cyfranogi arbenigol fydd yn hwyluso’r broses o wrando ac adnabod dyheadau plant dan 5 oed. Bydd holiadur safonol wedi ei lunio hefyd yn ogystal a chyllideb i gyflogi artistiaid lleol i gefnogi’r cyfnod ymgynghori.  

Ein gweledigaeth gychwynnol wrth ddatblygu prosiect Brigau Bach yw i  

*Gryfhau’r ymdeimlad o berthyn i’n cymunedau Cymraeg.

*Atgyfnerthu llesiant a chefnogi teuluoedd bregus.

*Datblygu perthynas am oes gyda natur.   

Gyda’n gilydd, bydd y tri mis nesaf yn gyfle i ni wrando a deall beth sydd ei angen a’r cyd-destun unigryw i bob ardal. Bydd yn gyfle i ni drafod efo rhanddeiliaid a chyfarfod ystod eang o blant a theuluoedd/gofalwyr yn ein cymunedau. Bydd popeth yn ein helpu i lywio cais cryf ar ran ein cymunedau i gronfa Meithrin Natur y Loteri Genedlaethol. 

 

193e2900 9640 4edc b613 02c8d9df0449
ARCHEBWCH

Mynediad am ddim!