Oll Arddangosfeydd Sgyrsiau Concerts Gweithdai Theatr Arall
Coed / Coexist: Galwad Agored Deunyddiau ar Gyfer Creu

Coed / Coexist: Galwad Agored Deunyddiau ar Gyfer Creu

Galwad Agored, Deunyddiau ar gyfer Creu - Pren o Goeden Ffawydd ar gael i’w Gasglu

Yn dilyn ein symposiwm Coed Coexist a gynhaliawyd yn ddiweddar, gwahoddir ymarferwyr creadigol sydd â chysylltiadau â Phen Llŷn ac ardal ehangach Gwynedd i gasglu pren o goeden ffawydd a syrthiodd ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn gynharach eleni a chymryd rhan yng ngham nesaf y prosiect Coed Coexist. Mae'r goeden hon a'i phren yn ganolog i brosiect Coed Coexist, yn symbolaidd ac yn ffisegol.

Darllen mwy
Cinio Nadolig

Cinio Nadolig

Dewch draw i fwynhau ein cinio Dolig blasus. Parcio am ddim a thocyn i gael 10% i ffwrdd yn yr Oriel a'r Siop!

2 cwrs - £24.95

3 cwrs - £28.95

Tachwedd: 26,27,28

Rhagfyr: 3,4,5,10,11,17,18,19

Cliciwch yma i weld y bwydlen

RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW 

Coed Coexist - Comisiynau

Coed Coexist - Comisiynau

Galwad am ddatganiadau ar gyfer comisiwn 

Mae tîm Coed Coexist yn gweithio i sicrhau cyllid ar gyfer pedwar comisiwn newydd mawr i'w cyflwyno ochr yn ochr ag arddangosfa Coed Coexist rhang mis Mai a Gorffennaf 2026. Bydd pob artist neu grŵp a ddewisir yn derbyn ffi o £2000 i wireddu gwaith newydd ( ffi i dalu holl gostau artistiaid).

Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cynnig wneud hynny erbyn 5pm, 28 Mawrth 2025. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â alex@oriel.org.uk

Bydd y bobl greadigol a gomisiynir yn cael eu cefnogi gan staff Plas Glyn-y-Weddw a Junko Mori a John Egan drwy gydol y prosiect. Y gobaith yw y bydd dogfennaeth barhaus o daith pob comisiwn yn cael ei chipio trwy ffilm, ffotograffiaeth a gair ysgrifenedig / llafar.

Darllen mwy