Oll Arddangosfeydd Sgyrsiau Concerts Gweithdai Theatr Arall
Gŵyl Arfordir Llŷn

Gŵyl Arfordir Llŷn

Rydym yn gyffrous i lansio Gŵyl Arfordir Llŷn 2026! ✨ 🌊

Ymunwch â ni o’r 5ed o Fedi wrth i ni ddathlu ein harfordir godidog drwy gydol y mis, gyda rhaglen wych o ddigwyddiadau a gweithgareddau ym Mhen Llŷn.

P’un a ydych chi am archwilio, dysgu rhywbeth newydd, neu fwynhau amser ger y môr, mae ‘na rywbeth i bawb.

Dilynwch y ddolen isod i weld ein rhaglen lawn ac i archebu eich lle!
Eventbrite


Yn y cyfamser, gallwch ein helpu i ledaenu’r gair drwy:
💙 Dilyn @gwylarfordirllyn
📲 Rhannu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau

Edrychwn ymlaen at weld chi ym mis Medi!

 

ARCHEBWCH

Digwyddiadau rhad ac am ddim!

Sgwrs gan John Dilwyn Williams a Glyn Roberts 'Bywyd Gwledig yn Llŷn ac Eifionydd'

Sgwrs gan John Dilwyn Williams a Glyn Roberts 'Bywyd Gwledig yn Llŷn ac Eifionydd'

Bydd yr haneswyr John Dilwyn Williams a Glyn Roberts yn trafod casgliad lluniau y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles a’r modd mae’r lluniau wedi dal ffordd o fyw yng nghefn gwlad sydd wedi newid yn aruthrol dros y degawdau.

Dysgwch mwy am arddangosfa Geoff Charles yma.

ARCHEBWCH

Mynediad am ddim!