Oll Arddangosfeydd Sgyrsiau Concerts Gweithdai Theatr Arall
Duologue: Pwyll ap Siôn + Jack M. Campbell

Duologue: Pwyll ap Siôn + Jack M. Campbell

O Gymru i Kyiv (a nôl)

Mae’r ffidlwr Jack M. Campbell a’r pianydd Pwyll ap Siôn yn perfformio fel Duologue, deuawd cerddoriaeth gyfoes a ffurfiwyd yn 2025. Cynhaliwyd eu perfformiad cyntaf yn Kyiv, Wcráin – dinas a gafodd ei rhwygo gan ryfel – gan ysbrydoli rhaglen sy’n myfyrio ar le, gwydnwch a chysylltiad trwy gerddoriaeth.

Mae’r cyngerdd yn cynnwys gweithiau gan Philip Glass ac Arvo Pärt ochr yn ochr â darn clodwiw Campbell, 'Birdsong', a darn ap Siôn, 'The Bird Has Flown' – teyrnged deimladwy i Wcráin. Ar hyn o bryd, mae’r ddeuawd yn recordio eu halbwm cyntaf o drefniannau o gerddoriaeth Philip Glass, i nodi pen-blwydd y cyfansoddwr yn 90 oed yn 2027.

 

ARCHEBWCH

£12.00 / £10.00 (i aelodau)

Harddwch Gwyllt: Pedwarawdau piano gan Martinu a Brahms

Harddwch Gwyllt: Pedwarawdau piano gan Martinu a Brahms

Mae’r cerddorion Cymreig Richard Ormrod a Mary Hofman yn ymuno â’r feiolawraig wych Emma Sheppard (prif fiolawraig gyda’r 'English National Ballet') a Rebecca Knight ar y sielo (prif sielydd gwadd gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham, a phrif sielydd gyda City of London Sinfonia).

Byddant yn perfformio pedwarawd piano hynod ac egnïol y cyfansoddwr Tsiec, Martinů; mae ei dri symudiad yn amrywio rhwng emosiwn dwys, telynegiaeth a ffantasi chwareus wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth werin.

Dilynir hyn gan un o gampweithiau Brahms: y pedwarawd piano yn C leiaf, a elwir yn aml yn Bedwarawd Werther oherwydd ei gyfeiriadau at nofel Goethe, 'The Sorrows of Young Werther'. Mae’n waith llawn dwyster angerddol a harddwch telynegol.

Darllen mwy
ARCHEBWCH

£12.00 (Mynediad Cyffredinol) / £10.00 (Aelodau)