Claire Mace: Gweithdy + Sioe

Gweithdy

'Meddyginiaeth Ein Hen Neiniau '

22 Gorffennaf + 12 Awst | 10:30-11:30

Ychydig o genedlaethau yn ôl, roedd defnyddio planhigion a choed fel meddyginiaeth yn gyffredin ymysg pobl gyffredin. Roedd pawb yn manteisio ar y perlysiau syml o'u cwmpas i gefnogi eu hiechyd. Ond sut oedd pobl yn dysgu’r wybodaeth hon os nad oedden nhw’n gallu darllen nac ysgrifennu, neu os nad oedd ganddynt fynediad at lyfrau? Bydd y gweithdy hwn gyda’r storïwraig Claire Mace yn ceisio ateb y cwestiwn yma trwy gymysgedd o straeon, llên gwerin planhigion ac ymarferion trwy synhwyrau.

Addas ar gyfer oedolion a phobl ifanc 7+

 

Sioe

'Perlysiau Sanctaidd Prydain'

22 Gorffennaf + 12 Awst | 13:30-14:30

Ymunwch â Claire Mace am ailadroddiad dwyieithog o stori Olwen, merch y cawr yr oedd ei gwallt yn felynach na'r banadl a’i bochau’n gochach na blodau bysedd y cŵn.

Ble bynnag mae’n cerdded mae’n gadael meillion gwyn o’i hôl. Hi yw arwres “Culhwch ac Olwen” stori o lawysgrifau canoloesol, Y Mabinogion.

Dyma diriogaeth Olwen, a ysbrydolwyd gan lên gwerin o bob cwr o Gymru.  Plethir mytholeg, hud a lledrith, llên lysieuol, chwedlau gwerin, storïau’r coed a phlanhigion ynghyd i ddarlunio'i thirwedd.

Cafodd y perfformiad chwedleua traddodiadol hwn o’r stori ei ddatblygu diolch i Wobr Esyllt gan Chwedl, rhwydwaith o chwedlwragedd yng Nghymru. 

 

DSC02853 2
Archebwch

Cliciwch i archebu gweithdy a/neu sioe