Arddangosfa Nesaf
Bydd ein harddangosfa nesaf yn agor am 2yp ar Hydref 13eg, 2024. Croeso cynnes i bawb.
Louise Morgan RCA: 'Gorwelion Diddiwedd' & Pete Jones: 'Tu Hwnt i'r Mynyddoedd'
Arddangosfa ar y cyd o gelf tirluniol a ffigurol a ysbrydolwyd gan feirdd Cymreig ac etifeddiaeth ddiwydiannol a diwylliannol.
Kim Atkinson & Noёlle Griffiths: 'Gardd Mwsog'
Paentiadau a ysbrydolwyd gan fwsogau, llysiau’r afu a phlanhigion eraill a geir yn ein Fforestydd Glaw Celtaidd, mewn cyferbyniad â ffolio o baentiadau a wnaed yn ystod ein preswyliad yn y Fforestydd Is-Antarctig yn Neheubarth Chile.
Nia Mackeown: 'Golau'
“Cyfres o baentiadau sy’n dal y cydadwaith rhwng golau a lliw yn nhirwedd Cymru a’r bywyd llonydd o fewn fy stiwdio. Crëwyd pob darn drwy arsylwi uniongyrchol tra'n byw a gweithio yng Nghymru.”