Mae gan Blas Glyn y Weddw dîm ffyddlon o wirfoddolwyr sydd yn chwarae rhan allweddol yng ngweithgareddau’r oriel. Mae cyfraniad y gwirfoddolwyr yn holl bwysig ac ‘rydym bob amser yn edrych am fwy o wirfoddolwyr.
Ar hyn o bryd mae tua 40 o wirfoddolwyr yn cefnogi staff yr oriel gyda tasgau amrywiol sy’n cynnwys edrych ar ôl y siop, croesawu ymwelwyr yn y neuadd fawr, garddio, paentio a trefnu blodau.
Os oes ganddoch ddiddordeb mewn rhoi amser i helpu ym Mhlas Glyn y Weddw, lawrlwythwch y ffurflen pdf isod a’i hanfon trwy’r post i Blas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7TT neu trwy ebost i enquiry@oriel.org.uk.

ffurflen gais

Diddordeb gwirfoddoli?