Yn arwerthiant stad Madryn yn 1896 prynwyd Plas Glyn y Weddw gan Solomon Andrews, gŵr busnes llwyddianus o Gaerdydd oedd yn berchennog nifer o dai yn ogystal a meddu ar fusnes trafnidiaeth a melysfwyd yn y ddinas.
Yn 1893 prynodd dir ym Mhwllheli wedi iddo sylwi ar botensial yr ardal i dwristiaid, a dechreuodd adeiladu rhes o dai a gwesty mewn rhan o’r dref a adnabyddir heddiw fel y West End. Yn 1896 hysbysebwyd Plas Glyn y Weddw a 196 o aceri ar werth gan roi cyfle euraidd i Solomon Andrews ddatblygu ei ddiddordebau busnes ar arfordir Llŷn.
Prynodd y Plas gan gynnwys yr ardd, y goedwig a’r tiroedd amgylchynol am £7,000 gyda 86 acer ychwanegol o dir am £6,000 a rhan o fferm Crugan am £2,000.
Yn fuan wedyn, agorwyd y Plas fel oriel gelf gyhoeddus, ac arddangoswyd lluniau gan artistiaid enwog megis Turner, Constable a Gainsborough. Adeiladwyd ystafelloedd te gerllaw y fynedfa i’r Plas, ystafell ddawnsio ar safle iard y stablau a hysbysebwyd yr atyniad fel Fine Art Gallery and Pleasure Grounds.
‘Roedd Solomon Andrews yn berchen ar dir yr holl ffordd o Glyn y Weddw i’r West End ym Mhwllheli gan alluogi datblygiad tramffordd i gludo ymwelwyr o Bwllheli i Lanbedrog. Difrodwyd rhan ohoni mewn storm enbyd yn 1927, dyna fu diwedd y dramffordd.
Caewyd yr oriel i’r cyhoedd ar ddechrau yr Ail Ryfel Byd a bu merched Byddin y Tir yn aros yn yr adeilad am gyfnod. Yn 1945 gwerthwyd y lluniau a chynnwys yr oriel gan y teulu Andrews mewn ocsiwn.
Merched Byddin y Tir yng Nglyn-y-Weddw