Mae Plas Glyn-y-Weddw wedi'i drwyddedu ar gyfer Seremonïau Priodas Sifil. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi dod yn safle priodasol poblogaidd iawn oherwydd ei leoliad rhamantus. Gallwn hefyd ddarparu ar gyfer brecwast priodas llawn gan ein arlwywyr mewnol Caffi'r Oriel.
Pa leoliad gwell i briodi ynddo? Ar ddiwrnodau clir mae cefndir Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri heb ei ail ar gyfer ffotograffau eich diwrnod arbennig.
Yn ystod misoedd yr hydref mae'r coetir ar y pentir cyfagos yn gyforiog o goch, aur a brown ac mae'r gwanwyn yn cynhyrchu arddangosfa wych o gennin Pedr.
Mae'r grisiau mawreddog yn darparu cefndir dramatig ar gyfer ffotograffau mewnol fel y mae'r lle tân yn y brif neuadd, lle mae tanau coed yn llosgi ar ddiwrnodau oerach.
Nodwch os gwelwch yn dda fod hawl i briodi yn yr awyr agored yma yn y Plas yn dilyn llacio rheolau yn Ebrill 2022.
Brecwast Priodas
Prisiau Hurio