Oll Arddangosfeydd Sgyrsiau Concerts Gweithdai Theatr Arall
Arddangosfa Haf 2025

Arddangosfa Haf 2025

ARDDANGOSFA HAF - 16.07.25 - 05.10.25

Detholiad o waith gan 100 o artistiaid. Gellir prynu a chasglu darn o waith ar y diwrnod!

Cliciwch ar y linc isod i weld yr holl waith.

Ewch i'n siop ar lein: https://oriel-plas-glyn-y-wedd...

Arddangosfa Angela Davies 'At Galon y Gwir'

Arddangosfa Angela Davies 'At Galon y Gwir'

Arddangosfa Angela Davies 'At Galon y Gwir'

Mae'r arddangosfa hon yn nodi esblygiad yn ymarfer yr artist dros gyfnod o bum mlynedd, gan ddod a gweithiau newydd ynghyd sydd yn cynnwys cerflunwaith, delweddaeth symudol a phaentio. Mae’r gwaith wedi datblygu wrth i'r artist gasglu hen straeon ym Mhen Llŷn, yn enwedig hanesion am smyglo halen, torri'r gyfraith, rhwydweithiau cyfrin lleol ac ogofâu ble storiwyd yr halen.

Mae'r naratifau hyn wedi bod yn fan cychwyn i'r artist archwilio halen ymhellach fel deunydd cerfluniol organig. Gan gofleidio breuder, mae'r arddangosfa'n edrych ar gylchoedd y môr, ein cylchoedd bywyd corfforol a'n trawsnewidiadau. Trwy theori ecoffeministaidd mae'n datgelu colled amgylcheddol a hiraeth, ond hefyd y mannau hynny a wnawn i geisio iachâd neu gysur.

Gyda pherfformiadau a chynulliadau yn ysgogi'r arddangosfa ymhellach, bydd At Galon y Gwir yn esblygu ac yn newid.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen yma.

Gweithdai Haf i Blant

Gweithdai Haf i Blant

Sesiynau Celf a Chrefft i Blant 4 - 12 oed

Darllen mwy
Archebwch

Archebwch yma:

The Merry Wives of Windsor: gan William Shakespeare

The Merry Wives of Windsor: gan William Shakespeare

Mae Falstaff yn hollol dlawd. Mae'n penderfynu mai ei unig opsiwn yw hudo gwragedd dau fasnachwr cyfoethog. Ond mae'r merched yn ffrindiau gorau, ac wrth gwrs maen nhw'n rhannu eu cyfrinachau yn ddyddiol... Wedi eu cyfareddu, nid yn unig fod Falstaff wedi ysgrifennu atyn nhw, ond ei fod wedi anfon llythyrau caru yn union yr un fath atyn nhw, maen nhw'n penderfynu chwarae tric arno.  Gyda chymorth eu gwŷr a'u ffrindiau, mae'r 'Merry Wives' yn ei ddenu i goedwig arswydus ac yn dysgu gwers fythgofiadwy iddo! Mae'r pum actor o Illyria yn perfformio dramâu Shakespeare yn uniongyrchol o’r Ffolio Cyntaf, y rhifyn mwyaf awdurdodol o ddramâu Shakespeare. Mae'n gyflym, mae'n raenus, ac wedi'i llefaru'n hyfryd. 
 

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 20 munud (yn cynnwys egwyl o 20 munud)

Addas i bob oedran 

Archebwch nawr

The Merry Wives of Windsor

Sgwrs Artist: Iwan Bala 'Dim Dihangfa'

Sgwrs Artist: Iwan Bala 'Dim Dihangfa'

Ymunwch â ni am 'Dim Dihangfa', sgwrs ddarluniadol gan yr artist Cymreig enwog Iwan Bala, artist celf gyfoes Gymreig sy'n archwilio hunaniaeth, diwylliant a pherthyn yn bwerus.

 

Darllen mwy
Archebwch

Tocynnau - £5.00

Cyngerdd Prynhawn gyda Elinor Bennett

Cyngerdd Prynhawn gyda Elinor Bennett

Treuliwch brynhawn hudolus yng nghwmni Elinor Bennett, un o delynorion enwocaf Cymru. Gyda gyrfa sy'n ymestyn dros ddegawdau, mae Elinor yn enwog am ei dawn gerddorol eithriadol, ei hymroddiad i addysgu, a'i rôl fel cyfarwyddwr sefydlol Gŵyl Delynau Cymru. Dyma gyfle prin i fwynhau ei chwarae coeth yn amgylchoedd prydferth Plas Glyn-y-Weddw.

£12 / £10

Archebwch yma