Arddangosfa Angela Davies 'At Galon y Gwir'
Mae'r arddangosfa hon yn nodi esblygiad yn ymarfer yr artist dros gyfnod o bum mlynedd, gan ddod a gweithiau newydd ynghyd sydd yn cynnwys cerflunwaith, delweddaeth symudol a phaentio. Mae’r gwaith wedi datblygu wrth i'r artist gasglu hen straeon ym Mhen Llŷn, yn enwedig hanesion am smyglo halen, torri'r gyfraith, rhwydweithiau cyfrin lleol ac ogofâu ble storiwyd yr halen.
Mae'r naratifau hyn wedi bod yn fan cychwyn i'r artist archwilio halen ymhellach fel deunydd cerfluniol organig. Gan gofleidio breuder, mae'r arddangosfa'n edrych ar gylchoedd y môr, ein cylchoedd bywyd corfforol a'n trawsnewidiadau. Trwy theori ecoffeministaidd mae'n datgelu colled amgylcheddol a hiraeth, ond hefyd y mannau hynny a wnawn i geisio iachâd neu gysur.
Gyda pherfformiadau a chynulliadau yn ysgogi'r arddangosfa ymhellach, bydd At Galon y Gwir yn esblygu ac yn newid.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen yma.