Ymunwch â ni i fwynhau sgwrs ddarluniadol gan yr artist enwog Iwan Bala. Bydd yn dilyn trywydd ei waith yng nghyd-destun hunaniaeth Gymreig a'r ffaith na all ddianc rhag trafod Cymru, ei hanes, diwylliant, chwedloniaeth a gwleidyddiaeth.
Mae'r teitl yn cyfeirio at y gerdd 'Hon' gan T.H Parry Williams sydd yn gorffen gyda'r geiriau 'ni allaf ddianc rhag hon.'

Archebwch
Tocynnau - £5.00