Cyngerdd Nadolig

14:00-15:30

Rydym yn croesawu pawb i Blas Glyn-y-Weddw ar gyfer ein Cyngerdd Nadolig blynyddol!

Ymunwch â ni am brynhawn o gerddoriaeth Nadoligaidd gyda Band Pwllheli, ynghyd â Pwyll ap Sion a Nia Davies-Williams, yn perfformio detholiad o ffefrynnau’r Nadolig a charolau traddodiadol i bawb gael cyd-ganu.

Mwynhewch wydraid o win cynnes a sleisen o strwdl, sydd wedi’u cynnwys ym mhris y tocyn, ynghyd â gostyniad o 10% oddi ar bopeth yn yr oriel. Byddwn hefyd yn cyhoeddi enillydd lwcus ein Raffl Fawr!

 

ARCHEBWCH

£5.00