Mae theatr awyr agored John Andrews a ddatblygwyd yn 2012 bellach yn un o brif atyniadau Plas Glyn-y-Weddw.

Yn ystod misoedd yr haf mae rhaglen amrywiol o gyngherddau a pherfformiadau theatrig yn cael eu cynnal yn y theatr sydd yn eistedd 250.

Mae’r theatr wedi ei henwi er cof am John Andrews oedd yn or-ŵyr i Solomon Andrews, i gydnabod ei gefnogaeth ef a’i deulu dros nifer o flynyddoedd.

O dan y llwyfan mae ystafell aml bwrpas sy’n cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer rhaglen amrywiol o ffilmiau gan artistiaid.