Roedd Solomon Andrews yn ŵr busnes llwyddiannus yng Nghaerdydd a chychwynnodd ar ddatblygiad sylweddol ym Mhwllheli ym 1893, a oedd yn ddiweddarach i gynnwys prynu plasty Plas Glyn-y-Weddw ac adeiladu tramffordd geffylau i Lanbedrog.

Ymunodd ei fab Francis Emile (a adwaenid yn ddiweddarach fel ‘FE’ gan ei gyfeillion a’i gydnabod) â’i dad ym musnes llwyddiannus y teulu a datblygodd ddiddordeb brwd mewn casglu creiriau, yn enwedig porslen Abertawe a Nantgarw. Daeth FE yn enwog drwy’r wlad fel arbenigwr a chasglwr creiriau ac am fod yn berchen un o’r casgliadau mwyaf o borslen Abertawe a Nantgarw ym Mhrydain. Cadwodd ei ŵyr, John Andrews, at y diddordeb teuluol hwnnw ac mae’r diolch i’w lygaid craff a’u haelioni arbennig ein bod yn gallu gweld y casgliad rhyfeddol hwn heddiw ym Mhlas Glyn y Weddw.

147

Cefndir Porslen Abertawe & Nantgarw

Er i grochenwaith gael ei gynhyrchu yng Nghymru dros y canrifoedd, ni wnaed porslen ond dros gyfnod o ychydig flynyddoedd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er gwaethaf eu cynhyrchu am gyfnod mor fyr, mae llestri porslen ffatrïoedd Abertawe a Nantgarw gystal os nad gwell mewn ansawdd a phrydferthwch na chynnyrch y cystadleuwyr dros y ffin yn Lloegr. Lluniwyd llestri porslen amrywiol Cymru’n hynod grefftus ac maent yn bleser eu cyffwrdd ac yn hyfryd iawn eu tryleuedd. Gadawyd llawer ohonynt, yn enwedig rhai Nantgarw, yn ddiaddurn a’u hanfon i Lundain i’w haddurno’n ddrud â’r patrymau ffasiynol diweddaraf, yn aml dan ddylanwad arddull Sèvres. Mae safon y gwaith hwnnw’n aml yn gyfareddol. Cedwid eraill, cynnyrch Abertawe gan fwyaf, yng Nghymru, i’w peintio gan arlunwyr lleol y ffatrïoedd. Yr arlunwyr hynny a ddatblygodd arddull unigryw Gymreig o beintio blodau ar lestri ceramig. Roedd yr arddull yn ffres a newydd, heb ddim o ddylanwad y patrymau Asiaidd neu Gyfandirol a ysbrydolodd gymaint o grochenwyr Lloegr dros y blynyddoedd. Peintiwyd y blodau tyner a naturiolaidd mewn lliwiau llachar, ond â chysgodion cynnil. Mae’r blodau wedi’u trefnu’n hyfryd o anffurfiol, yn aml yn awgrymu eu gwasgaru ar hap ar wyneb y plât. Nid oes llawer o enghreifftiau ar ôl erbyn heddiw ac mae’r casgliad ym Mhlas Glyn-y-Weddw yn cynnig cyfle prin i weld amrywiaeth eang o addurniadau (ac nid dim ond y rhai blodeuog) a wnaed yn Llundain ac yn lleol, yn ogystal â’r ystod eang o siapiau a ffurfiau a gynhyrchwyd. Cynhwysir enghreifftiau o lawer o’r setiau coethaf, gan gynnwys plât enwog y ‘Three Graces’.

Mae’n wir bod hanes porslen o Gymru’n un digon dryslyd, ond yr unigolyn allweddol yw William Billingsley. Ganwyd Billingsley yn Derby ym 1758 a daeth yn brentis yn ffatri Derby ym 1774 a chafodd waith sefydlog yno yn ôl pob golwg am un mlynedd ar hugain. Rhaid ei fod yn arbennig o ddawnus fel arlunydd ac fel technegydd cerameg a thyfodd i fod yn arlunydd mwyaf gwerthfawr y ffatri. Mae’n debyg mai uchelgais a barodd iddo adael ym 1795 a sefydlu ffatrïoedd yn Pinxton ym 1796, Mansfield ym 1799 a Brampton-in-Torksey ym 1803. Diffyg llwyddiant mewn un lle a barodd iddo ddianc i’r lle nesaf a threuliodd gyfnod pellach, rhwng 1808 a 1813, yn ffatri Caerwrangon cyn teithio i Gymru.

Cat Swansea Nantgarw Bach

Gallwch ddarganfod mwy am y casgliad prin yma mewn catalog llawn lluniau sydd wedi ei ysgrifennu gan yr arbenigwr porslen Fergus Gambon sy'n gweithio i gwmni arwerthwyr Bonham's yn Llundain. Mae ar gael i'w brynu am £9.95 yn yr Oriel, (gellir ei archebu trwy'r post am £12.50, yn cynnwys costau postio).