Mae ystafelloedd ar gael i'w llogi ym Mhlas Glyn-y-Weddw ar gyfer pob mathau o ddigwyddiadau ac achlysuron gan gynnwys cynhadleddau, cyfarfodydd, darlithoedd a phartion preifat.
Gall Caffi’r Oriel arlwyo ar gyfer unrhyw ddigwyddiad ac mae'r fwydlen yn cynnwys cynnyrch lleol o'r ansawdd gorau.
Mae WI-FI ar gael ym mhrif rannau yr adeilad a'r mwyafrif o'r ystafelloedd sydd ar gael i'w llogi. Hefyd gallwn logi offer a chynnig cefnogaeth dechnegol.
Ffurflen archebu