Adeiladwyd Plas Glyn y Weddw yn 1857 fel ‘tŷ gweddw’ i’r Fonesig Elizabeth Love Jones Parry, gweddw Syr Love Parry Jones Parry, sgweiar stâd Madryn.

Ffenestr 1857 Glynyweddw

Er bod y Fonesig Jones Parry wedi bwriadu i’r Plas fod yn gartref iddi yn wedi i’w mab, Thomas Love Duncombe Jones Parry briodi, ni wireddwyd hynny gan na wnaeth o briodi yn ystod oes ei fam. O ganlyniad bu’r Fonesig yn trigo yn Madryn hyd ei marwolaeth yn 1881.

Costiodd adeiladu a dodrefnu’r Plas, datblygu’r gerddi godidog gyda rhwydwaith o lwybrau troed yn arwain trwyddynt tua £20,000 – swm enfawr yn y cyfnod hwnnw.

‘Roedd y gerddi yn cynnwys yr holl dir o flaen y Plas hyd at y traeth a phlanwyd nifer o rywogaethau o goed ecsotig yn yr ardd a’r goedwig, a adnabyddir fel ‘Y Winllan’, gan gynnwys y ‘Sequoia’ enfawr ger y fynedfa i’r maes parcio heddiw.

Er na wnaeth y Fonesig Love Jones Parry erioed fyw ym Mhlas Glyn y Weddw ‘roedd yn ymweld yn rheolaidd, gan gael ei gyrru yma gan Siarl ei choetsmon, a wisgai het galed a lifrai y teulu. William Jones, y garddwr a’i deulu oedd yn byw yn adain gefn yr adeilad, yn cadw y tŷ a’r gerddi mewn trefn ar gyfer y Fonesig.


Madryn

Castell Madryn

Yn ystod y cyfnod yn dilyn marwolaeth y Fonesig Jones Parry, ei mab Syr Thomas Love Duncombe Jones Parry oedd perchennog Plas Glyn y Weddw. ‘Roedd yn ffigwr amlwg yn Sir Gaernarfon yn ei gyfnod, nid yn unig yn un o’r prif dirfeiddiannwr ond yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros y Sir am gyfnod o 1868, cafodd ei wneud yn Farwnig ac ‘roedd yn un o sefydlwyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

‘Roedd Syr Love Jones Parry yn byw yn Madryn, ond bu’n teithio yn helaeth gan wario llawer o’i amser yn Llundain.

Am ychydig fisoedd yn ystod yr 1880’au bu William Rathbone, Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Gaernarfon yn byw yn Nglyn y Weddw.

Yn fuan wedyn, rhoddwyd y tŷ a’r gerddi ar lês i William Nettleship Angerstein a’i deulu. Bu farw W.N Angerstein yn 1892, a bu ei weddw, Frances Augusta (ei henw morwynol oedd Hoare) yn byw yn y Plas tan 1896. Mae cerrig beddau cwn y teulu Angerstein i’w gweld ar deras isaf yr ardd.

Bu farw Thomas Duncombe Love Jones Parry yn 1891, ac etifeddwyd stad Madryn gan ei chwaer, Sarah Elizabeth Margaret Jones Williams o Gelliwig.

Gwerthwyd Plas Glyn-y-Weddw mewn ocsiwn yn 1896 i ŵr busnes o Gaerdydd o'r enw Solomon Andrews.

Yn dilyn marwolaeth Sarah Jones Williams yn 1899 daeth gweddill stad Madryn i feddiant ei chefnder, William Corbet Yale o Fryn Eglwys, Sir Ddinbych. Gwerthwyd gweddillion y stad gan gynnwys Castell Madryn wedi marwolaeth Corbet Yale yn 1909.

Dymchwelwyd Madryn ar ddechrau yr 1960au a dim ond y gatws Tuduraidd sydd wedi goroesi ac yn sefyll ynghanol maes carafannau heddiw.