Sefydlwyd Cyfeillion Plas Glyn-y-Weddw yn ystod 80’au y ganrif ddiwethaf gan Dafydd a Gwyneth ap Tomos, perchnogion y Plas ar y pryd. Mae cefnogaeth y Cyfeillion wedi bod yn werthfawr iawn ar hyd y blynyddoedd.

Mae’r cyllid a gynhyrchir trwy ffioedd aelodaeth yn ffynhonnell incwm bwysig i Blas Glyn-y-Weddw, sy’n cael ei redeg gan ymddiriedolaeth elusennol annibynnol. Mae'r arian a gynhyrchir yn cyfrannu at gostau sy'n cynnwys cynnal a chadw'r adeilad a chyhoeddi deunyddiau hyrwyddo ar gyfer arddangosfeydd.

Ymunwch heddiw er mwyn cyfrannu tuag at gynnal y ganolfan gelf unigryw yma.

Y GÔST:

Mae’r tâl aelodaeth yn £30 ac yn ddilys am 365 diwrnod o’r diwrnod y telir y ffȋ aelodaeth.

SUT I YMUNO:

  1. Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen, dychwelwch y ffurflen wedi ei llenwi, ynghyd â’r taliad i’r Oriel

NEU

  1. Cliciwch yma i ymuno ar-lein

MANTEISION:

  • Gostyniad o 5% ar wariant yn yr ORIEL a'r SIOP
  • Cynigion tymhorol arbennig
  • Gwahoddiad i flaenweliadau a chyfle i gyfarfod ag artistiaid
  • Manylion am arddangosfeydd a digwyddiadau

TELERAU AC AMODAU:

1.Bydd aelodaeth yn ddilys am 365 diwrnod o’r diwrnod y telir y ffȋ aelodaeth.

2.Mae tâl aelodaeth o £30 yn ddyledus, gellir talu ar lein trwy ddilyn y linc ar ein gwefan, neu fe ellir talu wrth y ddesg yn yr oriel.

3.Bydd aelodau yn derbyn gostyngiad o 5% ar waith celf gwreiddiol a nwyddau y siop, nid oes gostyngiad ar gael yn y caffi. Mae’n rhaid i chi ddangos eich tocyn aelodaeth pan yn talu am eich eitemau er mwyn derbyn y gostyngiad.

4.Dim ond yr aelod (sef y sawl sydd a’i enw ar y cerdyn aelodaeth) sydd yn gymwys i dderbyn gostyngiad yn yr oriel.

5.Bydd ffȋ o £5 yn daladwy i archebu cerdyn newydd yn lle un sydd wedi ei golli.

6. Os y byddwch yn newid eich cerbyd rhaid i chi hysbysu staff Plas Glyn-y-Weddw cyn eich ymweliad, neu ar ôl cyrraedd y ganolfan a darparu'r rhif cofrestru newydd.

7. Mae'r maes parcio ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Nid yw Cwmni Plas Glyn-y-Weddw Cyf yn ymrwymo i oruchwylio’r maes parcio, ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i gerbydau modur na’u cynnwys sut bynnag y’u hachosir, neu anaf i unrhyw berson sut bynnag yr achosir anaf, oni bai neu i y graddau a achosir gan esgeulustod sydd wedi ei brofi.

8. Sylwch nad yw aelodau yn cael blaenoriaeth i'w ddeiliad dros unrhyw gerbydau eraill sy'n parcio yn y maes parcio. Ar rai achlysuron prin gall y maes parcio fod yn llawn ac o ganlyniad efallai y bydd yn rhaid i chi aros nes bydd lle parcio ar gael.

Rydym yn ddiolchgar iawn i chi am eich cefnogaeth barhaus.