Mae dros 50 o orielau ledled Cymru yn gweithredu'r Cynllun Casglu sydd yn cynorthwyo pobl sy’n preswylio ym Mhrydain i brynu gweithiau celf a chrefft gwreiddiol a wnaethpwyd gan artistiaid sydd dal yn fyw.

Collector Plan

Sut mae'r cynllun casglu'n gweithio?

  • Dim ond 10% o flaendal bydd rhaid i chi dalu
  • Ad-delir benthyciad y Cynllun Casglu mewn randaliadau misol drwy archeb sefydlog
  • Y cyfnod hwyaf i ad-dalu benthyciad y Cynllun Casglu yw 12 mis
  • Isafswm yr ad-daliad misol yw £10
  • Gallwch brynu sawl darn o waith celf o sawl oriel hyd at y ffin credyd o £5,000. Bydd benthyciadau ar gael i bobl dros ddeunaw oed sy’n preswylio ym Mhrydain gyda chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu all gynnal debyd uniongyrchol. 
  • Cymeradwyir benthyciad gan y Cynllun Casglu mewn 7-10 o ddyddiau fel rheol
Acw Logo Black Portrait