Sgwrs Artist: Anna Falcini

13:00-15:00

‘ailddychmygu Gwen John: meinwe feddal'

Mae Anna Falcini yn trafod sut mae llythyrau, llyfrau nodiadau a darluniadau’r artist Gwen John wrth wraidd ei harddangosfa unigol ddiweddaraf, 'ailddychmygu Gwen John: meinwe feddal'. Arweiniodd comisiwn gan y British Council Wales yn 2024 i ddatblygu gwaith newydd am fywyd John ym Mharis at ddarganfod y bydoedd mewnol a oedd yn rhan o fywyd yr artist Cymreig ym Mharis, gan olrhain ei pherthnasoedd ysbrydol, personol ac an-ddynol.

Archwiliodd Falcini sut yr oedd rhyngwyneb bywyd artistig a phersonol John yn plethu â’r dwysedd emosiynol a brofwyd gan yr artist. Er ei bod yn aml yn cael ei hystyried yn bwnc problematig, mae Falcini yn datgelu dehongliadau newydd ac yn amlygu’r gwrthdaro emosiynol hwn a oedd yn bodoli ochr yn ochr â bywyd artistig John.

Yn y sgwrs, bydd yr artist yn archwilio’r hyn sy’n ysgogi safbwyntiau newydd ar yr agwedd hon o fywyd John, safbwyntiau sy’n codi trwy ddefnyddio deunyddiau bregus fel porslen a ffabrig, natur ysgafn ac addurnol rhuban gwallt coch llachar, neu’r weithred o ofalu am gorff menyw wrth frwsio gwallt – elfennau sy’n cael eu cyflwyno trwy gerflunwaith, perfformiad, gosodiad celf a darluniadau dyfrlliw.

 

ARCHEBWCH

Mynediad am ddim!