Untitled design 9

Mae FFYNNU Celf yn rhaglen beilot o breswylfeydd ac ymgysylltu a ddatblygwyd gan Plas Glyn-y-Weddw (canolfan gelf ac amgueddfa achrededig) yng ngogledd Cymru. Ei nod yw archwilio sut y gall artistiaid a chymunedau gydweithio i ddeall ac ymateb i newid hinsawdd a chyfiawnder hinsawdd mewn cyd-destun gwledig ac arfordirol. Mae'r prosiect hwn mewn partneriaeth â GwyrddNi (mudiad hinsawdd cymunedol), ac mae'n cynnig cyfleoedd ar gyfer arbrofi artistig, myfyrio, a gweithredu cadarnhaol ar yr hinsawdd.

 

Mae FFYNNU Celf yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno gan Blas Glyn-y-Weddw mewn partneriaeth â GwyrddNi, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, GwyrddNi, Adra ac Ymddiriedolaeth John Andrews.