Mae Lucy A. Sames yn artist ac yn ymchwilydd sydd â gyrfa 17 mlynedd yn rhychwantu curadu, ysgrifennu am gelf, cydweithio a pherfformio. Mae ei hymchwil yn cynnig cysyniad ffeministaidd, 'queer' a ôl-ddynol o 'ormodedd', sy'n cael ei archwilio trwy ddefnyddioldeb a throsiadau sy'n ymwneud â hylifedd. Mae llawer o'i gwaith ysgrifennu a'i meddwl diweddar wedi canolbwyntio ar ddŵr ac ecolegau dyfrol.
Denwyd Lucy i breswyliad celf FFYNNU Celf ym Mhlas Glyn-y-Weddw oherwydd tirwedd arfordirol unigryw Pen Llŷn, lle mae cymuned, twristiaeth, diwydiant a chadwraeth wedi'u cydblethu'n ddwfn o fewn amgylchedd dyfrol.
Yn ystod ei chyfnod preswyl yn y Plas, bydd Lucy yn arbrofi gyda dulliau o fapio systemau corfforol: proses gydweithredol o greu diagramau tri dimensiwn, sy'n defnyddio adrodd straeon ac arteffactau lleol i archwilio sut mae'r argyfwng hinsawdd yn cael ei ymgorffori'n ffisegol a'i brofi ar lefel gwbl leol.
Cadwch i fyny â gwaith Lucy drwy ei dilyn ar Instagram -