Mae Hedydd Ioan yn artist o Ddyffryn Nantlle sydd wedi’i leoli yn Stiwdio Cadnant yng Nghaernarfon, ac sy’n gweithio gyda ffilm, cerddoriaeth a pherfformio. Mae ei waith yn archwilio’r croestoriadau rhwng y cyfryngau hyn, yn enwedig sut y gall cymunedau gefnogi eu hunain ac eraill drwy’r celfyddydau a gweithgareddau cymunedol.
Yn ystod preswyliad FFYNNU ym Mhlas Glyn-y-Weddw, bydd Hedydd yn archwilio sut i wneud effeithiau haniaethol canolfannau data ar gymunedau gwledig yn weladwy drwy osodiadau, perfformiadau a darnau sain. Bydd yn defnyddio’r amser a’r gofod i ddatblygu cyfres o arbrofion a gweithiau cychwynnol ar draws y cyfryngau y mae’n gweithio gyda nhw, wedi’u hysbrydoli’n uniongyrchol gan yr ymchwil a’r sgyrsiau a ddaw i’r amlwg yn ystod y preswyliad.
Mae ei waith yn archwilio sut y gellir creu gofodau ar gyfer arbrofi a chreu artistig, gan gwestiynu’r systemau sy’n ein dal ynghyd fel cymunedau. Rhwng ein byd technolegol a’r byd naturiol, mae cwestiynau’n codi ynghylch perchnogaeth ac effaith y systemau hyn arnom ni fel unigolion ac ar y byd o’n cwmpas.
Drwy’r preswyliad hwn, mae Hedydd yn gobeithio parhau i archwilio a darganfod posibiliadau newydd o fewn ei ymarfer artistig, gan ddefnyddio’r broses o greu i sbarduno sgyrsiau a rhannu syniadau.
Cadwch i fyny â gwaith Hedydd drwy ei ddilyn ar Instagram -