Mae Sadia Pineda Hameed yn artist ac awdur Filipino Pacistani. Mae ei gwaith yn archwilio ffyrdd cudd o siarad am drawma cyfunol a rhyng-genhedlaethol trwy strategaethau gwrth-drefedigaethol o freuddwydio, telepathi a chyfrinachau. Gan ddefnyddio ffilm 16mm a fideo hi8, gosodiad cerfluniol, testun a pherfformiad, mae ei gwaith yn dychmygu sut olwg fyddai ar offer yn y dyfodol ar gyfer gwrthsafiad, gwerth a chymundeb sy’n deillio o’r strategaethau hyn – yn aml trwy’r ‘llaw’.
Yn ystod y preswyliad, bydd Sadia yn archwilio rhwydi pysgota coll (malurion rhwydi pysgota wedi torri) a’r berthnasoedd rhwng hinsawdd, llafur, hanesion trefedigaethol a mytholegau personol; a beth allai atgyweirio ei olygu fel arfer sy’n ymwybodol o’r hinsawdd: nid yn unig adfer gwrthrych sydd wedi’i ddifrodi ond ystyried pa fathau o wybodaeth sy’n parhau i fod yn bosibl eu hadfer.
Cadwch i fyny â gwaith Sadia drwy ei dilyn ar Instagram -