Mae Joseph Conran yn artist gweledol ac yn strategaethydd yn y sector amgylcheddol, ac yn byw yng ngogledd Cymru. Mae ei waith yn archwilio’r gofod rhwng pobl a natur, ac yn aml yn tynnu ar brosesau naturiol fel ffordd o edrych yn feirniadol ar ddynoliaeth. Mae ganddo ddiddordeb yn y modd y mae ein perthynas â natur, a’r hanesion cymhleth sydd wedi’u plethu drwy ein tirweddau, yn llunio’r ffordd rydym yn gweld y byd.
Mae ei brosiect, O’r Pedwar Gwynt, yn archwilio animistiaeth a mynegiant hinsawdd. Mae’r pedwar gwynt wedi bod yn gyfystyr â newid ers gwareiddiadau cynnar, ac yn ymddangos mewn mytholeg fel duwiau sy’n rheoli’r tymhorau. Mae pob un wedi’i lunio o amgylch nodweddion y patrymau tywydd y mae’n eu cynrychioli, gan weithredu fel arwyddion wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.
Mae’r darluniau hyn o’r gwyntoedd fel arwyddion o newid wedi gwreiddio yn ein hymwybyddiaeth gyfunol. Drwy’r prosiect hwn, bydd Joseph yn archwilio sut roedd ein cyndeidiau’n deall ac yn dehongli’r gwyntoedd tymhorol cyfnewidiol, gan gwestiynu a oes modd gweld yr arwyddion yr oeddent yn chwilio amdanynt yn y byd o’n cwmpas heddiw.
Cadwch i fyny â gwaith Lucy drwy ei dilyn ar Instagram -