Arddangosfa Haf 2026
Ymunwch â ni ddydd Mercher, 22 Gorffennaf am 16:00 i ddathlu agoriad ein harddangosfeydd newydd!
Detholiad o weithiau gan 130 o artistiaid.
Mae'r holl weithiau ar gael i'w prynu ar-lein yma.
Ymunwch â ni ddydd Mercher, 22 Gorffennaf am 16:00 i ddathlu agoriad ein harddangosfeydd newydd!
Detholiad o weithiau gan 130 o artistiaid.
Mae'r holl weithiau ar gael i'w prynu ar-lein yma.
Ymunwch â ni ddydd Mercher, 22 Gorffennaf am 16:00 i ddathlu'r agoriad!
Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cipolwg ar fywyd gwledig yn Llŷn ac Eifionydd rhwng yr 1930au a’r 1970au drwy ddetholiad o luniau y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles (1909-2002).
Mae ffotograffau Geoff Charles yn dogfennu bywyd yn y Gymru wledig, nifer helaeth wedi eu tynnu ar gyfer papur newydd Y Cymro. Yn wreiddiol o Frymbo ger Wrecsam, dechreuodd weithio i’r Cymro yn achlysurol yn 1937 gan ddechrau gweithio yn llawn amser i’r papur ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Mae casgliad o tua 120,000 o ddelweddau Geoff Charles yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell am adael i ni fenthyca delweddau o’r casgliad ynghyd a ffilm Yr Eifeddiaeth ar gyfer yr arddangosfa. Galluogwyd y benthyciadau trwy brosiect CELF sydd yn anelu at arddangos gweithiau celf cyfoes o’r casgliad cenedlaethol mewn rhwydwaith o orielau ledled Cymru.
Yn ystod ei yrfa cyfranodd Geoff Charles yn helaeth i fyd amaeth yng Nghymru nid yn unig trwy ddogfennu bywyd gwledig yn ystod degawdau ble gwelwyd llawer o newid a datblygiad, ond hefyd trwy ei gyfraniad i’r cyfnodolyn Farmers Weekly. Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd bu'n aelod o is-bwyllgor arddangos Pwyllgor Gweithredol Amaeth Rhyfel Sir Drefaldwyn a oedd yn gyfrifol am wella arferion ffermio.
Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys eitemau cysylltiedig ag amaeth a bywyd gwledig sydd ar fenthyg gan drigolion lleol.
Pleser hefyd yw cael comisiynnu yr artist o Foduan, Anna Higson i greu gwaith sydd yn ymateb i Yr Etifeddiaeth – mae’r ffilm i’w gweld yn y gofod o dan lwyfan y theatr awyr agored. Mae’r comisiwn wedi ei alluogi trwy’r prosiect CELF.
Arddangosfa gan Anna Higson
Ymunwch â ni ddydd Mercher, 22 Gorffennaf am 16:00 i ddathlu'r agoriad!
Mae'r artist a'r ffotograffydd Anna Higson yn archwilio pobl, lleoedd a straeon ardal Tudweiliog yn Llŷn. Wedi'i hysbrydoli gan Gasgliad Geoff Charles a ffilm ‘Yr Etifeddiaeth’, mae hi'n cofnodi’r ymdeimlad cryf o gymuned sy’n bodoli yn y pentref, gan ddathlu ei arwyr di-glod a'r genhedlaeth nesaf sy'n cario’r etifeddiaeth yn ei blaen. Mae'r prosiect parhaus hwn yn dal moment mewn amser mewn man ble mae’r stori yn parhau i ddatblygu.
Mae’r prosiect wedi'i gomisiynu gan Plas Glyn-y-Weddw a CELF.
Cymru yn Fenis
Sownd: Manon Awst + Dylan Huw
Mae’r ffilm fer hon yn cyflwyno Sownd, y prosiect sy’n cynrychioli Cymru yn 61ain Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia 2026, un o ddigwyddiadau celf gyfoes bwysicaf y byd.