'GORJYS' - Cimera: Syrcas

Diwrnod Cymunedol: Syrcas, Gweithdai Celf, Cerddoriaeth

11:00 - 13:00

Gweithgareddau Cymunedol (cerdded ar stilts, syrcas, celf a chrefft)

13:00 - 14:00

Sioe Syrcas GORJYS yn Theatr Awyr Agored John Andrews

14:00 - 16:00

Gweithgareddau yn parhau

 

Yny gofod rhwng tir a môr mae byd o ddianc, gwyrdroi cymdeithasol ac ailddyfeisio yn llifoac yn trai gyda'r llanw. Wedi'i osod ym myd glan môr dychmygol Morlais, mae Gorjys yn archwilio themâu Hunaniaeth, harddwch, dylanwad - cydymffurfiaeth a rhyddhad.

Mae'n ddarn syrcas cyfoes pwerus ond doniol.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf,gyda chefnogaeth gan gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru, rydymwedi gweithio ar ddatblygu'r syniadau a'r model perfformio ar gyfer y cynhyrchiad hwn a'urhannu â chynulleidfaoedd.

Gan dynnu ar ein profiad gyda phartneriaethau cymunedol a ffurfiwyd yn ystod prosiectau Cyd-greu Cymunedol llwyddiannus gan gynnwys Lleu-GoleuoGwynedd, rydym wedi bod yn datblygu ein model o berfformiad cynhwysol.

Dros haf 2026 byddwn yn cynhyrchu digwyddiad perfformio canolog, sy'n cynnwys y sioe mewn pabell syrcas a gŵyl gelfyddydau gymunedol ym Mharc Glynllifon ym mis Medi, sy'n dwyn ynghyd agweddau ar ein byd glan môr, a grëwyd trwy gyfres o brosiectau lloeren, gyda artistiaid proffesiynol ac aelodau'r gymuned.

Y cyntaf o'r rhain yw ym Mhlas Glyn- y-Weddw ar 20 Mehefin, lle bydd gennym gerddoriaeth, cymeriadau ar stilts a pherfformiad awyrol syrcas yn yr amffitheatr.

Mae Cimera yn Gwmni Theatr Syrcas Cyfoes o Ogledd Cymru.

Fel ein henw, y Chimera hybrid anhygoel o ddisglair o Fytholeg Groeg, rydym yn gwmnio sawl rhan. Rydym yn dod ag artistiaid o draddodiadau perfformio a dylunio amrywiol ynghyd i arbrofi a gwireddu ein gweledigaeth i greu llais artistig unigryw ar gyfer Gogledd Cymru. Rydym yn creu gwaith sy'n bwerus, yn anarchig, yn gomig ac yn dywyll yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Cimera 4
ARCHEBWCH

Mynediad am ddim!