Gwreiddiedig mewn Natur, Cysylltwyd drwy Greadigrwydd
Dechreuodd Coed Coexist gyda gweithred o natur...
Ym mis Ionawr 2024, disgynnodd ffawydden fawr mewn storm ar dir Plas Glyn-y-Weddw. Roedd y goeden wedi sefyll am oddeutu 150–200 o flynyddoedd, ac wedi’i siapio gan wyntoedd a thywydd arfordirol Penrhyn Llŷn.
Roedd y saer coed lleol, John Egan, a’r artist metel, Junko Mori, yn gweld y goeden a ddisgynnodd nid yn unig fel pren, ond fel deunydd â stori i’w hadrodd. O’r foment honno, gyda chydweithrediad Plas Glyn-y-Weddw, daeth y syniad am Coed Coexist i’r amlwg – prosiect sy’n tynnu sylw at ecosystemau coetir, wrth gysylltu cymuned, creadigrwydd a gofal am yr amgylchedd.
Daeth y ffawydden yn ganolbwynt i’r prosiect. Torrwyd y boncyff yn estyll, a chadwyd canghennau a hyd yn oed y darnau lleiaf a’r llwch llif, gyda pheth o’r deunydd yn cael ei droi’n siarcol. Y nod oedd anrhydeddu bywyd y goeden drwy ddefnyddio cymaint ohoni â phosibl.
Ym mis Medi 2024, daeth symposiwm ag artistiaid, rheolwyr tir, arbenigwyr amgylcheddol a’r gymuned leol ynghyd i archwilio ecoleg coetiroedd, traddodiadau crefft a deunyddiau cynaliadwy.
Yn dilyn hyn, derbyniodd mwy na saith deg o artistiaid a gwneuthurwyr o Benrhyn Llŷn, ledled Cymru a thu hwnt, ddarnau o’r ffawydd o weithdy John a Junko. Gan fod yr holl ddarnau wedi dod o’r un goeden, dechreuodd pob un ar daith greadigol wahanol. Mae’r gweithiau a ddeilliodd o hyn – gan gynnwys dodrefn, cerflunwaith, llestri, darluniau, cerddoriaeth ac ysgrifen – yn adlewyrchu ymateb unigol y gwneuthurwr, tra’n rhannu tarddiad cyffredin.
Diolch i gyllid o gronfa Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, meithrinodd y prosiect gyfnewidiadau diwylliannol rhwng Cymru a Siapan. Teithiodd ffawydd Cymreig i ogledd Siapan, lle bu aelodau o’r gymuned frodorol Ainu yn cerfio gwrthrychau traddodiadol o’r pren, gan amlygu perthnasoedd cyffredin â choedwigoedd a deunyddiau. Arweiniodd partneriaethau â Chymdeithas Diwylliant Pren Mynydd Fuji at breswyliadau artistiaid yn y ddwy wlad, gan gefnogi rhannu sgiliau a dyfnhau cysylltiadau rhwng traddodiadau crefft a pharch at natur. Rhannodd Ymddiriedolaeth Coetir Afan yn Nagano hefyd ffilm animeiddio etifeddiaeth yr awdur Cymreig-Siapaneaidd C.W. Nicol, wedi’i chyfieithu yma i’r Gymraeg gan ddisgyblion o Ben Llŷn.
Ochr yn ochr â’r gyfnewidfa ryngwladol hon, cefnogodd Coed Coexist artistiaid ledled Cymru drwy fentrau megis Gwobr Gwneuthurwr Ifanc a phum comisiwn creadigol.
Mae Coed Coexist yn dangos sut y gall un goeden, sydd wedi’i gwreiddio yn nhirwedd Penrhyn Llŷn, barhau i dyfu drwy ddychymyg a chreadigrwydd ar y cyd.
Dywedodd y cerflunydd David Nash,
“Mae coed yn cymryd dim ond digon, ac yn rhoi mwy yn ôl...”
Dyma sydd wedi dod yn ymgorfforiad o Coed Coexist.
Mae prosiect Coed Coexist wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Denise Coates, John Egan a Junko Mori, Cyngor Gwynedd (a ariannodd gomisiynau), a Plas Glyn-y-Weddw y mae eu hymrwymiad i’r celfyddydau, diwylliant a’r amgylchedd wedi helpu i wireddu’r prosiect hwn.