10:30–12:30 | Oedran 6–14 | £6
13:30–15:30 | Oedran 14+ | £10
Ymunwch ag artistiaid preswylfa BÔN x Ynys Enlli — Anna Higson, Chris Higson, Iwan Lloyd Roberts, Sioned Medi Evans, a Zoe Lewthwaite am sesiwn greadigol.
Mae'r sesiwn yn cychwyn gyda thaith byr lawr at y traeth i gasglu wrthrychau amrywiol cyn dod yn ôl i'r Plas i osod y gwrthrychau ar ddarn mawr o bapur yn ofod yr oriel.
Yna bydd y grŵp yn cymryd rhan mewn sesiwn darlunio wedi'i hysbrydoli gan eu gwrthrychau: braslunio gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau; siarcol, inc, pasteli ac ati neu gydag offeryn darlunio naturiol efallai wedi'i ddarganfod tra ar y traeth.
Tra hefyd yn dysgu am y profiadau a chlywed straeon yr artistiaid o'u cyfnod preswylio ar ynys Enlli ym mis Medi 2025.
Rhaid i blant 6 - 14 oed fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
*Darperir holl ddeunyddiau
Noddwyd y sesiwn yma gan gronfa Sbarduno Cyngor Gwynedd.
£6 / £10