Gweithdai Hanner Tymor i Blant

Cyfres o weithdai hwyliog a chreadigol i blant wedi'u hysbrydoli gan yr arddangosfa Coed Coexist.

26.05.26 | Gweithdy Argraffu Gelli gyda Jŵls Williams

10:00-12:00 (Plant 6-10 oed)

13:30-15:30 (Plant 11+ oed)

Gweithdy hwyl yn ymateb i siapiau natur gyda argraffu Gelli. Dyma gyfle i ddatblygu sgiliau newydd wrth creu delweddau uniongyrchol a trawiadol.

 

27.05.26 | Gweithdy Inc gyda Jŵls Williams

10:00-12:00 (Plant 6-10 oed)

13:30-15:30 (Plant 11+ oed)

Ymateb i ffurfiau coed a natur trwy dechnegau inc a brusho. Cyfle i gael hwyl yn arbrofi gyda lliwiau llachar a siapiau annisgwl.

 

28.05.26 | Gweithdy Pyrograffeg gyda Mr Kobo

10:00-12:00 (Plant 6-10 oed)

13:30-15:30 (Plant 11+ oed)

Dewch i greu gwaith celf pren unigryw eich hunain, wedi'u hysbrydoli gan yr arddangosfa Coed Coexist.

Yn y gweithdy hwyliog a chreadigol hwn, byddwn yn archwilio celf pyrograffi (llosgi coed) i ddarlunio, ysgrifennu a chreu patrymau gan ddefnyddio gwres ar bren.

Byddwn hefyd yn arbrofi gydag ychwanegu lliw at ein gweithiau celf pren gan ddefnyddio inc a phaent.

Gellir troi eich darnau wedi'u gwneud â llaw yn dlws crog a chadwyni goriadau, neu eu cadw fel cofroddion arbennig i'w trysori a'u harddangos.

 

ARCHEBWCH

£5.00