Trochi Celf: Argraffu Mono Sgrin gyda Zoe Lewthwaite
  • Gweithdy Oedolion
  • 10:00-16:00
  • Seibiant Cinio 12:30-13:30 (cinio ddim yn gynwysiedig)
  • £50.00 (Te a chacen yn gynwysedig)

Yn y sesiwn Argraffu Sgrîn Mono hon, byddwch yn arbrofi gyda phroses hwyliog, rhydd sy'n eich galluogi i greu argraffiadau paentiadol gyda gwastadrwydd argraffu sgrîn. Byddwch yn cymysgu lliwiau ac yn peintio'n rhydd ar sgrîn sidan, gan haenu nifer o liwiau ac archwilio strôc brwsh a gwneud marciau. Does dim yn gywir nac yn anghywir - byddwch yn gadael gyda argraffiadau bywiog ac haniaethol i'w fynd adref gyda chi.

*Dewch â delwedd gyda chi a fydd yn ysbrydoliaeth i'ch print(iau) terfynol

 

Amserlen y Gweithdy

10:00

Cyrraedd a chofrestru

10:15

Cyflwyniad i Argraffu Mono Sgrin gyda Zoe

10:30

Dod i adnabod y grŵp

10:45

Lluniadu’r dyluniad: Gan ddefnyddio eich ddelwedd ysbrydoliaeth, byddwch yn creu dyluniad mynegiannol gan ddefnyddio cyfryngau cymysg fel siarcol, olew a phasteli meddal, pennau, a phensiliau lliw. Bydd y llun hwn yn gweithredu fel canllaw gweledol ar gyfer eich print terfynol. Byddwn yn archwilio technegau haenu trwy adeiladu blociau o liw i ffurfio cefndir, yna ychwanegu manylion, gwead a chyferbyniad pellach i ddatblygu dyfnder ac eglurder yn eich cyfansoddiad.

11:15

Paratoi Sgriniau + Demo Argraffu Mono Sgrin gan Zoe

11:30

Dewis a chymysgu palet lliw ar gyfer eich printiau

12:30 - 13:30

Cinio

13:30

Dechreuwch beintio'ch dyluniad ar eich sgriniau i'w argraffu. Yna byddwn yn arbrofi trwy ddefnyddio'r un sgrin i greu ac ychwanegu haenau i ddatblygu'r canlyniad terfynol.

15:30

Gorffen a dod at ein gilydd i adolygu

16:00

Diwedd y gweithdy

 

ARCHEBWCH

£50.00