10:00-13:00
Mae arfordir Cymru yn gartref i un o'r ecosystemau cen cyfoethocaf yn Ewrop. Yng nghoetiroedd Plas byddwn yn cerdded i ddod o hyd i'r ffurfiau bywyd hynafol hyn, eu cyffwrdd, edrych arnynt, i dreulio amser gydan nhw a'u darlunio.
Mae cen wedi'u gwneud o wahanol organebau sy'n cydweithio, maent yn glynu'n ysgafn wrth goed a chreigiau ac maent yn symud yn araf, gan ffurfio cymunedau symbiotig sy'n ffynnu mewn amodau llaith a golau.
Wedi'i hysbrydoli gan y bywyd cen hyn, byddwn yn chwarae gyda'r posibiliadau o fod gyda'n gilydd trwy arferion symud 'ymestynnol', yn gydweithredol ac yn chwareus fel cen, gan ddefnyddio'r 'bandiau elastig' o waith'Cyrff Ffrwythlon', sy’n rhan o arddangosfa Coed Coexist.
Byddwn yn treulio'r sesiwn hon yn yr awyr agored ar safle’r Plas, coetiroedd a lawntiau.
*Addas i 10+ oed
£5.00