Ymunwch â ni ddydd Sul, yr 11eg o Hydref, am 14:00 i ddathlu agoriad ein harddangosfeydd newydd, gan gynnwys...
Luned Rhys Parri
Mae Luned Rhys Parri yn artist sy'n gweithio o Gaernarfon, gan arbrofi â cholage, paentio a ffurfiau tri dimensiwn. Mae ei gwaith yn archwilio hanes a diwylliant Cymru drwy gyfansoddiadau haenog sy'n ymgorffori cylchgronau a phapurau newydd Cymraeg a ganfuwyd. Mae cydweithrediadau diweddar gydag artistiaid fel Julia Griffiths Jones a Cefyn Burgess wedi arwain at gyfeiriadau newydd yn ei gwaith, ochr yn ochr â'i hymgysylltiad parhaus â gweithdai celf cymunedol a phrosiectau treftadaeth ddiwylliannol.
Jonah Evans
Patrymau mewn Natur a Chwedlau
Mae Jonah Evans, a gafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobr Goffa Eirian Llwyd 2025, yn cyflwyno ei arddangosfa unigol gyntaf yn Plas Glyn-y-Weddw, gan arddangos gwaith newydd ac un diweddar. Gan weithio'n bennaf gyda lino, mae Evans yn archwilio'r byd naturiol – yn enwedig adar – ochr yn ochr â chwedlau, mythau a chreaduriaid ffantastig Cymru. Gan dynnu ysbrydoliaeth o'i fagwraeth rhwng y môr a'r mynyddoedd, mae ei brintiau nodedig a manwl yn adlewyrchu ei gysylltiad dwfn â Chymru.
Anna Falcini
ailddychmygu Gwen John: meinwe feddal
Mae ‘ailddychmygu Gwen John: meniwe feddal’ yn archwilio ymchwil Anna Falcini i’r artist Cymreig Gwen John a’i bywyd artistig ym Mharis. Gan dynnu ar lythyrau Gwen John, mae Falcini yn creu deialog â’r archif ynghylch profiad artistig menywod, gan archwilio perthnasoedd personol, ysbrydol ac anifeilaidd John. Trwy gerflunwaith, perfformiad, gosodiad celf a dyfrlliw, ochr yn ochr â gweithiau gwreiddiol gan John, mae’r arddangosfa yn herio dehongliadau hanesyddol o’i hemosiynau ‘problematig’.
Sioe Gymysg
Detholiad o weithiau gan 30 o artistiaid.