Arddangosfeydd y Gwanwyn 2021

Bydd arddangosfeydd y Gwanwyn gan Howard Coles, Lisa Eurgain Taylor, Caroline Atkinson a Paul Emmanuel i'w gweld ar-lein nes bydd caniatad i'r Oriel agor ei drysau i'r cyhoedd.

Cawn olwg newydd ar olygfeydd cyfarwydd trwy waith Howard Coles yn ei arddangosfa sy’n dwyn y teitl ‘Un Funud Fach’.

‘Cymylau Hedd’ yw teitl arddangosfa drawiadol Lisa Eurgain Taylor o dirluniau pur a hudolus sydd wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd Eryri.

‘O Fynydd i Fôr’ yw arddangosfa unigol gyntaf Caroline Atkinson yn y Plas, ac mae'n dilyn cwrs dwy afon trwy ddyffrynnoedd Glaslyn ac Ogwen.

Archwiliadau gyda chnu a phigment yw ffocws arddangosfa Paul Emmanuel, ‘Capel o Wastadrwydd Blewog’.


Mae hefyd ystod hyfryd o weithiau celf a llawer o eitemau o'r siop ar gael ar-lein:

https://oriel-plas-glyn-y-wedd...

ac mae staff yr oriel ar gael os bydd unrhyw ymholiadau – enquiry@oriel.org.uk

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth drwy’r amseroedd anodd yma ac edrychwn ymlaen yn arw i’ch croesawu’n ôl i’r Plas cyn hir.

Cadwch yn ddiogel.