Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.
Taith Beics Trydan - Tri phlas a thair paned
26.03.26 | 10:00-16:00
Taith ddiddorol gyda phaned neu ddwy o Blas Carmel i Blas yn Rhiw ac ymlaen i Blas Glyn y Weddw. Beth am dreialu beic trydan?
Cyfarfod Grŵp Bioamrywiaeth Pen Llŷn
26.03.26 | 17:30-19:30
Ymunwch â ni i drafod bioamrywiaeth Pen Llŷn a gweithredu i'w warchod. Cyfieithu ar y pryd ar gael.
Paned i'r Blaned
28.03.26 | 10:00-11:30
Cymdeithasu, sgwrsio am natur a hinsawdd a chanfod beth sydd mynd ymlaen yn eich ardal chi dros baned a rhywbeth melys am ddim. Croeso i siaradwyr Cymraeg newydd!
Gweithdai Crefft Gwyrdd-Goed
11.04.26 + 12.04.26 | 10:00
A ydych erioed eisiau cael siawns i weithio gyda gwyrdd-goed? Efallai base hwn yn gallu bod y gweithdy i chi! Bydd y cwrs hwn dros ddau ddiwrnod dan arweiniad Sticks Unlimited drwy gydweithrediad Yr Oriel Fyw i greu Ceffyl Naddu. Bydd rhaid i chi fynychu ar ddydd Sadwrn y 11eg a dydd Sul y 12fed.