Ymunwch â ni ar gyfer ein Gweithdai Haf i Blant - llawn creadigrwydd a gweithgareddau ymarferol!
Tylluan Blodeuwedd
gyda Tess Urbanska
🗓 19.08.26
⏰ 10:30-12:00 (4-7 oed)
⏰ 13:00-15:00 (8+ oed)
📍Plas Glyn-y-Weddw, Lloches Tu Allan
Dewch i gamu i fyd hudolus chwedlau Cymru a darganfod hanes Blodeuwedd, y ferch a grëwyd o flodau ac a droes yn dylluan. Ar ôl dysgu ychydig am chwedl Blodeuwedd, bydd plant a’u rhiant neu ofalwr yn creu tylluan wedi’i hysbrydoli gan Flodeuwedd, gan roi bywyd iddi drwy liw, dychymyg a chreadigrwydd.
Y gobaith yw na fydd dwy dylluan yn union yr un fath, gan wneud hwn yn gyfle gwych i dreulio amser gyda’ch gilydd wrth ddarganfod un o chwedlau mwyaf hudolus Cymru.
*Darperir yr holl ddeunyddiau.
*Rhaid i oedolyn fod gyda phlant drwy'r amser.
Creu Masgiau
gyda Chris Higson
🗓 20.08.26
⏰ 10:30-12:00 (4-7 oed)
⏰ 13:00-15:00 (8+ oed)
📍Plas Glyn-y-Weddw, Lloches Tu Allan
Dyluniwch ac addurnwch masg 'alter ego' anifail eich hun gan ddefnyddio plastr a phaent, gan dynnu ysbrydoliaeth o fasgiau lliwgar celf werin a chrefftwaith Mecsico.
*Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer.
*Gwisgwch ddillad hen os gwelwch yn dda.
*Rhaid i oedolyn fod yng nghwmni plant drwy'r amser.
Lliwio Ffabrigau Naturiol
gyda Ella Louise Jones
🗓 24.08.26
⏰ 10:30-12:00 (6-10 oed)
📍Plas Glyn-y-Weddw, Lloches Tu Allan
Yn y gweithdy hwn, mae cyfranogwyr yn gosod deunyddiau naturiol ar ddalen gynfas, yna'n ei stemio am 20 munud i greu ffabrig wedi'i liwio'n hyfryd. Gellir defnyddio'r broses hefyd ar fagiau tote a sanau.
*Darperir yr holl ddeunyddiau.
*Rhaid i oedolyn fod gyda phlant drwy'r amser.
Cerfluniau 3D o Wifren a Ffoil
gyda Ella Louise Jones
🗓 24.08.26
⏰ 13:00-15:00 (11-15 oed)
📍Plas Glyn-y-Weddw, Lloches Tu Allan
Sesiwn hwyliog creu cerfluniau 3D lle byddwch yn dysgu sut i greu siapiau tri dimensiwn gan ddefnyddio gwifren a ffoil, cyn ychwanegu'r manylion terfynol. Gallwch greu unrhyw beth, o gerfluniau anifeiliaid i'ch creadigaethau dychmygus eich hun!
*Darperir yr holl ddeunyddiau.
*Rhaid i oedolyn fod gyda phlant drwy'r amser.
🗓 24.08.26
⏰ 13:00-15:00 (11-15 oed)
📍Plas Glyn-y-Weddw, Lloches Tu Allan
Gludwaith Ffoil
gyda Ella Louise Jones
🗓 25.08.26
⏰ 10:30-12:00 (6-10 oed)
📍Plas Glyn-y-Weddw, Outdoor Shelter
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy creadigol lle byddwn yn creu colageau ffoil hardd gan ddefnyddio ffoil a phensiliau ffelt. Mae'r dechneg wych hon yn creu effaith gwydr lliw ac yn ffordd syml a hwyliog o drawsnewid deunyddiau cyffredin yn waith celf trawiadol.
*Darperir yr holl ddeunyddiau.
*Rhaid i oedolyn fod gyda phlant drwy'r amser.
Gwehyddu
gyda Ella Louise Jones
🗓 25.08.26
⏰ 13:00-15:00 (11-15 oed)
📍Plas Glyn-y-Weddw, Outdoor Shelter
Gwehyddu Coster / Nod Tudalen:
Yn y gweithdy gwehyddu hwn, bydd y cyfranogwyr yn ymchwilio i grefft draddodiadol Gymreig sy'n parhau i chwarae rhan allweddol yn niwydiant tecstilau Cymru. Gan ddefnyddio fframiau gwehyddu wedi'u torri â laser, byddwch yn creu darnau tecstilau bach o ffabrig sgrap ac edafedd. Mae'r sesiwn ymarferol hon yn cynnig y cyfle i grefftio eitemau fel nod tudalen neu waith maint coster.
*Darperir yr holl ddeunyddiau.
*Rhaid i oedolyn fod gyda phlant drwy'r amser.
Plant 4-7 oed (£4.00) | Plant 8+ oed(£5.00)