Cyngerdd: Caneuon y Ddaear gan Alys Mererid Roberts + Frederick Brown

14:00-15:00

Ers cychwyn cof, mae pobol wedi canu am brydferthwch y byd o’n cwmpas ni, â’n perthynas ni ag o. Mi fydd ein rhaglen yn archwilio nodweddion amrywiol ein Daear sydd wed bod yn ysbrydoliaeth i gerddorion a beirdd - torriad y wawr, glygfa coedwig bell o gopa’r mynydd, y cymylau, y gwynt a hyd yn oed barn trychfil o'r byd a’r betws. Gan gynnwys gweithiau gan Schubert, Ravel, Debussy, Dilys Elwyn Edwards, Gareth Glyn ac eraill.

 

ARCHEBWCH

£12.00 / £10.00 (i aelodau)