Gweithdy Aderyn Cân

Gweithdy dylunio a chreu aderyn cân crochenwaith caled

Dwy awr a hanner, £50 y person

Dewch i gymeryd rhan mewn gweithdy creadigol gyda’r artist Rew Wood.

Yn y dosbarth clai ymarferol difyr hwn, byddwch yn cael cyfle i greu gyda chlai gan wneud eich aderyn cân crochenwaith caled eich hun. Nid oes angen profiad blaenorol, mae croeso i ddechreuwyr - bydd Rew yn eich arwain bob cam o'r ffordd.

Yn ystod y gweithdy, byddwch yn dysgu sut i siapio a mowldio clai, a sut i ddefnyddio technegau amrywiol i ychwanegu gwead a manylder i'ch aderyn cân.

Byddwch hefyd yn archwilio'r broses hynod ddiddorol o osod tanwydredd, sy'n dod â lliwiau i'ch darn. Bydd eich aderyn crochenwaith caled hyfryd yn gallu gwrthsefyll rhew a gellir ei roi yn eich gardd neu y tu mewn i'ch cartref.

Mae'r dosbarth hwn yn darparu amgylchedd hwyliog a chefnogol i chi ryddhau'ch sgiliau gwneud a mwynhau'r rhyddid a'r natur therapiwtig o weithio gyda chlai.

Bydd eich aderyn yn unigryw i chi. Bydd Rew yn mynd â’r holl adar cân a grëwyd yn y gweithdy adref i’w stiwdio i danio a gwydredd ac yna byddant yn cael eu postio yn ôl atoch, yn gyflawn ac yn barod i addurno’ch cartref.

Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer.

Beth i ddod efo chi:

• Gwisgwch ddillad cyfforddus, fe all fod yn llychlyd.

• Mae'n well cael ewinedd byr a thynnu unrhyw fodrwyau.

• Ffedog i'w gwisgo

• Efallai yr hoffech ddod â thywel llaw eich hun

Yn addas ar gyfer oedolion, a phlant (hŷn na 12 oed). Rhaid i blant sy'n mynychu fod yng nghwmni oedolyn.

Bydd angen gofod/ffi archebu ar wahân ar blant.

Archebwch nawr

Gweithdy Aderyn Cân