Ocsiwn

Cynhelir Ocsiwn ar lein i godi arian tuag at ddatblygu y caffi newydd yn ystod mis Awst 2021. Bydd yr ocsiwn yn cynnwys gwaith celf gwreiddiol ynghyd ag addewidion arbennig sydd wedi eu rhoi yn hael gan artistiaid a chyfeillion y Plas. bydd modd rhoi cynnigion o'r 1af o Awst.

Mae'r ocsiwn yn rhan o ymgyrch i godi £1m ar gyfer y caffi a chegin newydd, fydd yn arwain at i'r Plas ddod yn hunan gynhaliol yn ariannol.

Hoffem ddiolch o galon i'r holl artistiaid a chyfeillion sydd wedi cyfrannu yn hael tuag at yr ocsiwn.

Dilynwch y linc i weld yr eitemau sydd ar gael - Blaenweliad o'r Ocsiwn

Cynnigion yn dechrau ar Awst 1af am 00.01am - pan fydd y linc yma yn mynd yn fyw - Rhowch gynnig nawr!