Catrin Williams photography Kristina Banholzer 10131

“Dwi’n angerddol am y celfyddydau o bob math ac mae wedi bod yn bleser mawr i mi gael tynnu nifer o artistiaid mor wahanol at eu gilydd a’u mentora er mwyn creu arddangosfa llawn amrywiaeth ym Mhlas Glyn-y-Weddw. Er mwyn i unrhyw artist ddatblygu mae angen cefnogaeth i’w wthio ymhellach, a’i hybu i ddal ati i greu. Un o’r rhesymau pwysig dros sefydlu BÔN yw bod yr unigolion yn gallu cefnogi a hyrwyddo ei gilydd – mae orielau’n cefnogi trwy gynnig gofod i arddangos, a gall pawb sy’n ymweld â’r sioe hon ddangos eu gwerthfawrogiad trwy ymgysylltu â’r gwaith sy’n cael ei arddangos.” - Catrin Williams

 

Dechreuodd Catrin Williams arddangos ei gweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae ei gwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe'i magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond mae wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yng ngwaith Catrin Williams; mae'r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy'i gilydd ac yn mynnu sylw. Dros amser datblygodd y themau cartrefol a theuluol i gynnwys elfennau o'r symbolau twristaidd o Gymru fel y llieiniau golchi llestri ystrydebol. Mae atsain o'i thirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn ei darnau diweddaraf, ond arfordir a thraethau penrhyn Llŷn yw'r ysbrydoliaeth bellach.

Ers blynyddoedd mae galw mawr wedi bod am ei gwaith gan gasglwyr preifat. Fe’i gwelir mewn casgliadau preifat ym mhob rhan o Ynysoedd Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Siapan, Canada, America a Tseina, ac yng nghasgliadau cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Gymreig o Gelfyddyd Fodern Y Tabernacl, Cyngor Sir Gwynedd, Oriel Ceredigion Aberystwyth ac Oriel Casnewydd Gwent.

 

Te cymreig 17 can Catrin Williams 1

 

@catrin_williams_artist

www.catrinwilliams.co.uk