Oll A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U W Y

Wedi'i magu ar fferm fynyddig yng Ngefnddwysarn ger y Bala, mae Catrin Williams bellach wedi byw ger y môr ym Mhwllheli er 1996. Mae Cymreigrwydd – neu’n hytrach y profiad o fyw yng Nghymru - yn thema gyson yn ei gwaith ac mae elfennau o'i chefndir a'i magwraeth ym Meirionnydd yn mynnu dod i’r wyneb. Mae’r cartref a'r fferm; dathliadau a dillad; cerddoriaeth a diwylliant Cymreig; traddodiadau teuluol a wynebau cyfarwydd yn amlygu eu hunain yn ei phaentiadau lliwgar, collage a'i gwaith 3D. Mae ei phortreadau diweddar o dirweddau yn adleisio ei phaentiadau cynnar o fynyddoedd Berwyn ac mae’r arfordir a'r môr o amgylch Penrhyn Llŷn yn ysbrydoliaeth cyson.

Mae Catrin wedi arddangos yn eang ac mae sawl darn o’i gwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus. Mae hi'n hynod boblogaidd fel arweinydd gweithdai ar gyfer plant ac oedolion ac mae wedi ymgymryd â llawer o brosiectau artist preswyl a safle-benodol o fri. Mae hi wedi ymddangos mewn llawer o raglenni teledu a radio yng Nghymru a thu hwnt. Yn Ebrill 2021, ymddangosodd ar y gyfres boblogaidd ‘Cymry ar Gynfas’ ar S4C fel un o’r paentwyr portread.