8 Sioned Wms profile pic 1

 

Magwyd Sioned Mair ar aelwyd greadigol, ar fferm ar odre mynydd Cefnamwlch yng nghalon Pen Llŷn. Yn blentyn, ‘roedd celf a chreu yn rhan annatod o’i bywyd pob dydd. Yn dilyn pwl o hiraeth yn astudio darlunio yn Lloegr, newidiodd ei chwrs bywyd i ddilyn llwybr gyrfa fel athrawes Gelf a Thechnoleg mewn ysgol uwchradd leol. Bellach dros bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae’n parhau i ymroi i’w rôl fel Pennaeth Cynorthwyol yn yr ysgol.

Ysgogwyd Sioned i ailafael yn ei chreadigrwydd yn 2016 pan anwyd ei merch. Datblygodd gyflwr prin o’r enw Syndrom HELLP ar ddiwedd ei beichiogrwydd, a arweiniodd at gymlethdodau yn ystod yr enedigaeth. Ers hynny mae’n edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol, mae’n benderfynol o fanteisio ar bob cyfle i ddatblygu ei hun fel ymarferwr creadigol.

Bellach mae’n byw yn Aberdaron, ac yn parhau i drio cydbwyso ei gyrfa ei hun fel artist ym Mhen draw Llŷn. Sefydlodd ei chwmni darlunio Dylunio Swi yn 2016, ac ers hynny mae ei stamp darluniadol i’w weld ar frandiau a phrosiectau cymunedol ym Mhen Llŷn ac yng ngogledd Cymru. Mae ei gwaith yn aml-haenog ac yn draethiadol eu natur, wedi eu ymgorffori’n ddyfn mewn hunaniaeth Gymreig, hanes, traddodiad a bywyd pob dydd yng ngwlad Llŷn.

 

Y GWAITH

2 Sioned Wms Beth ywr Ots completed 1

 

“Mae fy ngwaith celf wastad wedi bod yn draethiadol ei arddull a'r cyfrwng dwi’n ddefnyddio i gyfathrebu fy nheimladau a syniadaeth gyda eraill. Mae’n rhywbeth dwi’n gorfod ei wneud. Mae geiriau yn fy ysbrydoli - cerddi, caneuon ac enwau llefydd, byddaf yn eu plethu bron yn ddiarwybod yn fy ngwaith. Dwi’n teimlo elfen o gyfrifoldeb i roi ciplun o fywyd cyfoes ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol, a gobeithio sbarduno dychymyg neu gynnau diddordeb.

Does dim dianc o’r ffaith fod Cymreigrwydd, materion cyfoes a fy hunaniaeth Gymreig yn fy ysbrydoli. Y frwydr barhaus i fodoli ac i gyfiawnhau ein bodolaeth fel Cymry. Yr hiraeth sydd yn rhan ohonom fel cenedl. Mae rôl hanesyddol merched fel yr arwyr tawel hefyd wedi cydio ynof, ein dycnwch i oroesi beth bynnag fo’r her.

Mae’r gwaith hwn yn amrwd iawn ac yn ddogfennaeth o fy nhaith wrth ailgydio mewn paentio.” - Sioned Mair

 

3 Sioned Wms HON Commission unfinished

 

@dylunio_swi_design