Magwyd Billy Bagilhole ar aelwyd yn llawn o baentiadau a phrintiau ei dad. Er pan yn ifanc bu'n tynnu lluniau Americanwyr brodorol, anifeiliaid a ffigurau crefyddol gan ddynwared y delweddau hynny a grëwyd gan ei dad ar y waliau. Maent yn parhau i'w gyfareddu gan y bu ei dad farw yn 2001 pan oedd Billy yn 6 oed. Mae ei brofiad wedi ei addurno fel capsiwl amser o greadigrwydd ar gyfer ei waith. Mae'n aml yn datgan mai oherwydd ei dad y mae wedi dyfalbarhau gyda celf ac mai dyma pam mae ei empathi at wneud marciau, ac ar gyfer creu mor gryf.
Mae Bagilhole yn gweithio'n bennaf trwy gyfrwng paentio a gwneud ffilmiau. Yn aml yn gorchuddio cynfasau gyda halen a phaent trwchus, mae'n mwynhau'r elfen dechnegol o fewn paentio, o fewn lliw ac o fewn llygad y lens. Mae Bagilhole yn aml yn gweithio trwy ystumiau mewnol ac awgrymiadau o gynrychioliadau hiraethus ar fywyd haniaethol. Yn aml yn gwrthdaro lliw â delweddau sinistr. Mae'n teimlo bod peintio yn dod yn ffurf fynegiannol o ddealltwriaeth, a thrwy adael y gwaith fel cwestiwn agored, yn drosiad anhysbys, sy'n golygu o fewn paentio neu wneud ffilmiau, o fewn celf yn dod yn ddiderfyn.
Yr atyniad at baentio yn ôl Bagilhole yw'r gallu i greu'r anhysbys, yr annirnadwy a'r rhyfedd, gan greu ymdeimlad o ddryswch. Gyda themâu dilyniant megis yr esgyrn pysgod a welir yn aml, ei gymeriad amlwg "Edwin"" neu'r tarw, gallwn ddechrau gweld awgrym o berthynas rhwng y darnau hyn o ddelweddau gwahaniaethol yn aml. Mae Bagilhole yn credu ein bod ni’n gynhenid chwilfrydig a bod mynd ar drywydd celf yn cynnig mynegiant i’r natur chwilfrydig yma. Mae creu celf yn datblygu yn gyfrwng i ryfeddu, rhywbeth na ellir ei ddatrys yn bôs synhwyraidd sy'n ennyn diddordeb yr artist a'r gwyliwr.
Mae ‘Tetley's Tango’ yn astudiaeth o atgofion Billy Bagilhole o chwarae rygbi yn ystod y cyfnod er pan oedd yn 6 oed hyd at ei 20au cynnar. Mae Billy yn aml yn paeintio ystumiau trosiadol trwy weithredoedd corfforol, megis ffigurau'n dawnsio, pobl yn cysgu, pobl yn disgyn, neu yn yr achos hwn bod yn ddyn sy'n cael ei daclo gan y diafol. Wrth wneud y gwaith yma edrychodd yn helaeth ar ollyngdod trwy chwaraeon treisgar megis muai thai, bocsio a rygbi. Yn darlunio sut deimlad yw wynebu ofnau, adfyd, y paent a all ddod gydag ef a'r twf a ddaw ochr yn ochr ag ef. Roedd eisiau archwilio beth sy'n gwneud i ni fod eisiau cymryd rhan mewn pethau fel hyn a ble mae'n mynd â ni. Mae llawer o symbolau sy'n ailadrodd ac yn amneidio at rannau arbennig o'i fywyd i’w gweld yn nifer o weithiau Billy. Er engrhaifft, y peintiau o Guinness sy'n cydredeg â ffrâm y paentiad, dyma oedd hoff ddiod ei ddiweddar dad ac mae wedi bod yn fotiff sy'n codi dro ar ôl tro yng ngwaith Billy, gan fod ei dŷ pan yn tyfu i fyny yn llawn cyfeiriadau gweledol at y diod hwn. Ymysg motiffau eraill y gellir eu gweld mae yr esgidiau matador ar y ffigwr sy'n cael ei daclo, amnaid at y ffaith fod Billy wedi treulio llawer o’i blentyndod ar hen fferm orennau yn ne Sbaen.