Mae Elin Gruffydd yn ffotograffydd ffilm o Ben Llŷn. Mae ei gwaith, sydd yn bennaf wedi ei wreiddio ym myd natur, yn archwilio themâu prydferthwch syml, agosatrwydd a benyweidd-dra. Mae Elin yn anelu i ddal eiliadau tawel mewn gofod breuddwydiol, trwy lens hiraethus ffilm, wedi ei hysbrydoli gan y môr a’r mynyddoedd, a’r canol llonydd distaw rhwng y ddau.
Mae ‘Sweet Melancholy’ yn brosiect ffotograffiaeth sy’n cydblethu ffotograffiaeth ffilm Elin gyda geiriau’r artist Brenda Chamberlain, mewn archwiliad gweledol o Ynys Enlli a’r ynys Roegaidd Hydra. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Elin wedi trochi ei hun yng ngwaith Brenda Chamberlain, ei chelf a’i llenyddiaeth, ac wrth wneud hynny wedi darganfod yr edafedd sy’n cydblethu eu bywydau a’u llwybrau, gan arwain at yr ymchwil eang hwn o fywyd yr ynys, celf, llenyddiaeth, mytholeg a ffotograffiaeth.