Iwan Lloyd Roberts Profile pic 1

 

Mae Iwan Lloyd Roberts yn artist 24ain oed o Bwllheli. Astudiodd ddarlunio ym Mhrifysgol Cumbria (Carlisle,) am dair blynedd gan raddio yng ngaeaf 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd obsesiwn â phaentio olew gan gwblhau dros gant o ddarnau o waith a ysbrydolwyd gan syniadau am y natur ddynol, hanes cylchol, yr Oesoedd Canol a’i gysylltiad â Chymru.

Mae’r casgliad ddiweddaraf o weithiau celf yn adlewyrchu y ffordd o fyw y mae cymaint ohonom yn ei arwain. Ar doriad pob gwawr, er nad ydym yn rhyfela yn swyddogol, deffrown yn ddwfn o fewn y ffosydd. Er mai anaml y mae gennym y llygaid a'r ewyllys i'w gweled, yr ydym yn ymladd mewn brwydr sydd wedi cynddeiriogi yn ddi-baid o fewn ein meddyliau a'n heneidiau er dyddiau boreuaf y byd, ac ymddengys nad oes iddi ddiwedd yn y golwg. Nid oes noddfa i'w chael trwy gladdu ein hunain yn agennau'r oes a fu a'r dyfodol, ond trwy argyhoeddi ein hunain fod hanes ar ei derfyn, fe'n denwyd i wyrth o gysur. Dim ond yng nghanol yr ymladd hwn, unwaith y bydd y rhith wedi'i dorri, y bydd rhywun yn gallu sylweddoli eu hunain, y frwydr wirioneddol dros eu dynoliaeth, a darganfod eu bod yn dal yn fyw ar ymyl gwaedlyd rhywbeth na fyddant byth yn gallu ei ddirnad yn llwyr.

 

Y GWAITH: ‘Y Dyn Crog a’r Diafol’

Iwan Lloyd Roberts 1

 

Y groesffordd symbolaidd y mae ein pobl yn cael eu hunain arni yw'r gweithiau celf hyn. Yn cael eu hysbrydoli gan gyfansoddiad a thema o draddodiadau artistig Cymreig cynharach sy'n darlunio pobl sy'n gwynebu problemau dramatig, corfforol ac ysbrydol. Mae'r gweithiau yn gwobrwyo prosesu y symbolaeth yn amyneddgar.

 

@iwan_lloyd_roberts