yn y bôn | fundamental, stem
Sefydlwyd BÔN yn 2023 gan yr artist Catrin Williams, dan anogaeth Plas Glyn-y-Weddw a chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru. Ei nod yw ymateb i’r heriau sy’n wynebu artistiaid sydd yn cychwyn ar eu gyrfaoedd ac yn chwilio am gyfleoedd arddangos mewn orielau sefydledig yng ngogledd Cymru. Mae’r grŵp deinamig hwn yn dod a detholiad o leisiau artistig newydd cyffrous o Lŷn ynghyd, pob un yn dechrau ar daith unigryw ym myd yr arddangosfeydd. Mae cefnogaeth gan Blas Glyn-y-Weddw trwy gynnig lle blaenllaw yn eu calendr arddangos, a chyllid hanfodol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru i’r artistiaid ddatblygu gwaith newydd, yn tanlinellu arwyddocâd y fenter hon. Wrth edrych tua'r dyfodol, mae BÔN yn bwriadu ehangu presenoldeb ledled Cymru, gan sicrhau fod yr hunaniaeth a'r cyfleoedd hanfodol sy’n cael eu darparu yn dod yn fwyfwy hygyrch i dalent sydd yn egino, gan ddatblygu effaith barhaol.
Mae BÔN, sy'n golygu "sylfaenol" neu "stem" yn Gymraeg, yn adlewyrchu cred sylfaenol y grŵp mewn meithrin talent artistig ar gychwyn gyrfa. Mae darparu mynediad i orielau sefydledig yn cael ei weld fel elfen sylfaenol yn natblygiad arferion artistig a thwf proffesiynol. Fel coesyn sy'n cynnal ac yn maethu, nod BÔN yw darparu'r adnoddau a'r llwybrau hanfodol i'r artistiaid hyn allu ffynnu.
Mae'r enw BÔN hefyd yn cyseinio â'r tirwedd ieithyddol leol trwy'r 'to bach' ar ben yr 'O' - acen gyffredin yn yr iaith Gymraeg, a geir hefyd yn "Llŷn." Mae hunaniaeth weledol y grŵp, a ysbrydolwyd gan y tai crwn eiconig o’r Oes Haearn sy’n coroni bryniau Llŷn, yn angori BÔN ymhellach yn hanes cyfoethog a hunaniaeth unigryw’r ardal.
Dilynwch y grŵp BÔN ar Instagram @bon_llyn