Perfformiad + LOBSGOWS: Anna Falcini

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r artis aml gyfrwng Anna Falcini i'n sesiwn arbennig nesaf o LOBSGOWS....

 

Perfformiad gan Anna Falcini

'Cath neu Fenyw - mater o gyfrolau’

16:00

Dechreuwn y sesiwn gyda pherfformiad arbennig gan Anna Falcini, sy'n cyd-fynd â'i harddangosfa bresennol, 'ailddychmygu Gwen John: meinwe feddal'.

 

LOBSGOWS: Sesiwn Cyfoedion

gyda Anna Falcini

18:00-19:30

Bydd Anna Falcini yn trafod sut mae llythyrau, llyfrau nodiadau a darluniadau’r artist Gwen John wrth wraidd ei harddangosfa unigol ddiweddaraf, Ailddychmygu Gwen John: Meinwe Feddal. Mi fydd Anna yn rhannu sut y darganfyddodd trwy ei hymchwil, batrwm o ddwysedd emosiynol yng nghohebiaeth John, mae’n datgelu bod ei hemosiynau yn chwarae rhan gyfartal yn ei pherthnasoedd personol agos, ei pherthnasoedd ysbrydol a gyda anifeiliaid.

Mae hi'n ysgrifennu gyda'r un angerdd am ei chathod ag y mae am ei chariad Auguste Rodin neu ei chyfeillion benywaidd agos. Pan fydd ei pherthnasoedd agos yn methu, mae hi'n troi at Dduw ac yn datgelu ei theimladau ysbrydol.

Mae Anna yn cynnig dehongliadau newydd o'r archif gan amlygu'r gwrthdaro emosiynol yma drwy ddefnyddio deunyddiau bregus fel porslen a ffabrig, natur ysgafn ac addurnol rhuban gwallt coch llachar, neu'r weithred o ofalu am y corff benywaidd drwy frwsio gwallt – pethau a gyflwynir drwy gerflunwaith, perfformiad, gosodiadau celf a darluniau dyfrlliw.

*Mae LOBSGOWS yn gyfres arbennig sy'n seiliedig ar rannu syniadau rhwng cyfoedion, gan gynnig cyfle i gael trafodaethau agored gydag artistiaid mewn cysylltiad â gwaith gyda Plas Glyn y Weddw.

Sefydlwyd y grŵp yn sgil yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023.

 

ARCHEBWCH

Mynediad am ddim!