17.02.26
Mr Kobo: Coed + Celf
- 10:00-12:00 (Oedran 5+)
- 13:00-15:00 (Oedran 10+)
Yn y gweithdy hwyliog a dychmygus hwn, archwiliwch ddeunyddiau naturiol ynghyd ag amrywiaeth o dechnegau creadigol i greu gweithiau celf unigryw wedi'u hysbrydoli gan natur.
Gyda chanllawiau gan yr artist lleol Mr Kobo, bydd cyfranogwyr yn darganfod celf pyrograffi ac yn dysgu sut i greu llun, ysgrifennu a chreu marciau mynegiannol ar bren gan ddefnyddio'r dechneg llosgi coed arbennig yma.
Mi fydd gweithgareddau eraill y sesiwn yn cynnwys archwilio lliw gydag inciau, gwneud argraffu gweadog ac argraffiadau o wrthrychau naturiol, a dysgu sut i greu patrymau geometrig syml a phatrymau Celtaidd.
Mae'r gweithdy'n annog creadigrwydd, hyder a hunanfynegiant ar gyfer pob gallu, mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol.
Mi fyddwch yn gadael gydag amrywiaeth o weithiau celf nodedig, wedi'u gwneud â llaw i'w fynd adref gyda chi a'u trysori.
*Darperir holl ddeunyddiau.
18.02.26 + 19.02.29
Anna Pritchard
- 10:00-12:00 (Oedran 5+) Gweithdy Argraffu i Gynllunio Carthen: Cyfle i greu stamp eich hunain yn dilyn ysbrydolaeth o'r arddangosfa Parc Cenedlaethol ai ddefnyddio i gynllunio carthen.
- 13:00-15:00 (Oedran 10+) Dylunio Carthen gyda Mapiau: Yn defnyddio mapiau fel man cychwynol i greu cynllun ar gyfer carthen eich hunain, bydd cyfle hefyd I argraffu yn defnyddio llythrennau i greu yr enwau Cymraeg.
Dewiswch weithdy (£6.00)