Bywyd Gwledig yn  Llŷn ac Eifionydd - Drwy lens Geoff Charles

Ymunwch â ni ddydd Mercher, 22 Gorffennaf am 16:00 i ddathlu'r agoriad!

 

Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cipolwg ar fywyd gwledig yn Llŷn ac Eifionydd rhwng yr 1930au a’r 1970au drwy ddetholiad o luniau y ffoto-newyddiadurwr Geoff Charles (1909-2002).

Mae ffotograffau Geoff Charles yn dogfennu bywyd yn y Gymru wledig, nifer helaeth wedi eu tynnu ar gyfer papur newydd Y Cymro. Yn wreiddiol o Frymbo ger Wrecsam, dechreuodd weithio i’r Cymro yn achlysurol yn 1937 gan ddechrau gweithio yn llawn amser i’r papur ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Mae casgliad o tua 120,000 o ddelweddau Geoff Charles yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell am adael i ni fenthyca delweddau o’r casgliad ynghyd a ffilm Yr Eifeddiaeth ar gyfer yr arddangosfa. Galluogwyd y benthyciadau trwy brosiect CELF sydd yn anelu at arddangos gweithiau celf cyfoes o’r casgliad cenedlaethol mewn rhwydwaith o orielau ledled Cymru.

Yn ystod ei yrfa cyfranodd Geoff Charles yn helaeth i fyd amaeth yng Nghymru nid yn unig trwy ddogfennu bywyd gwledig yn ystod degawdau ble gwelwyd llawer o newid a datblygiad, ond hefyd trwy ei gyfraniad i’r cyfnodolyn Farmers Weekly. Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd bu'n aelod o is-bwyllgor arddangos Pwyllgor Gweithredol Amaeth Rhyfel Sir Drefaldwyn a oedd yn gyfrifol am wella arferion ffermio.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys eitemau cysylltiedig ag amaeth a bywyd gwledig sydd ar fenthyg gan drigolion lleol.

Pleser hefyd yw cael comisiynnu yr artist o Foduan, Anna Higson i greu gwaith sydd yn ymateb i Yr Etifeddiaeth – mae’r ffilm i’w gweld yn y gofod o dan lwyfan y theatr awyr agored. Mae’r comisiwn wedi ei alluogi trwy’r prosiect CELF.