Mae’n bleser ganddom eich cyflwyno i Yr Oriel Fyw – oriel fyw lle mae pobl, coed a syniadau’n tyfu ochr wrth ochr. Wedi’i lleoli yng nghyffiniau Plas Glyn y Weddw, mae’r gofod yma wedi’i greu i ysbrydoli dysgu, creadigrwydd a chariad at gadwraeth natur. Boed ichi ddod yma i helpu yn ymarferol, i ofyn cwestiynau, neu i bori’n hamddenol ymysg y coed, rydych chi’n rhan o’r daith. Does dim angen profiad – mae croeso i bawb.
Dros amser, bydd y feithrinfa hon yn troi’n llawer mwy na rhesi o goed ifanc. Rydan ni’n llunio gofod cymdeithasol bywiog, gyda pharthau tyfu, mannau cyfarfod, a chorneli tawel i fyfyrio. Mae’n le i ddysgu, i orffwys, ac i ailgysylltu â’ch ymdeimlad eich hun o beth yw rhyfeddod.
Ond ochr yn ochr â’r ysbryd croesawgar yma mae pwrpas i’r cynllun. Crëwyd Yr Oriel Fyw i gefnogi adfer coedwig y Winllan, coetir hynafol a gafodd ei ddifrodi gan storm, ac erbyn hyn mae’n safle sydd yn rhoi lle i adfywiad rhywogaethau prin a gwydn ym Mhen Llŷn. Drwy wreiddio ein gwaith mewn cadwraeth dan arweiniad gwyddoniaeth ac ymgysylltiad cymunedol, rydan ni’n mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yma yn ein tirwedd.
Yma fe allwch chi ddod ar draws:
- Cadwraeth ymarferol – Casglu hadau, egino, plannu, a gofalu am gynefinoedd.
- Prosiectau adfywio rhywogaethau – O aspen i’r gollen forol a derw amrywiol.
- Ymchwil a darganfod – O wyddor pridd i eneteg, gan wneud syniadau blaengar yn hygyrch i bawb.
- Creadigrwydd a diwylliant – gweu mytholeg Gymreig, celf a storiweithio i mewn i ffabrig byw ein meithrinfa.
Pryd i Ymweld:
- Ar agor bob Dydd Iau a Dydd Sul, 10yb – 1yp.
- Bydd pob sesiwn Dydd Sul hefyd yn cynnwys gweithgaredd crefft ysgol goedwig, trwy’r hydref. Mae’r gweithdai syml, addas i deuluoedd yma’n defnyddio deunyddiau naturiol i greu “crefft yr wythnos” – ffordd o ddod â phobl ynghyd, dathlu’r tymor, a gadael i greadigrwydd ffynnu yn yr awyr agored.
Mae pob gweithred fach yn cyfrif. Boed ichi ddyfrio blaguryn, ymuno mewn gweithdy, rhannu’ch gwybodaeth, neu dreulio eiliad dawel ymysg y planhigion, rydych chi’n cyfrannu at rywbeth mwy – llwybr tuag at gydfodolaeth, fel y bwriadodd natur. Felly, anadlwch yn ddwfn – dyma le i ailgysylltu, i ail-ddychmygu, ac i helpu adeiladu dyfodol tosturiol, cyfoethog a llawn rhyfeddod i natur.
Mae Yr Oriel Fyw yn cael ei hariannu gan Partneriaeth Natur Leol Gwynedd (LNP) a GwyrddNi, sy’n rhannu ein gweledigaeth o ddod â phobl a natur ynghyd ar gyfer dyfodol gwell.